Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dyn a gafodd ei achub o Afon Taf ddydd Mawrth, wedi marw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Er nad ydi ei enw wedi’i gyhoeddi’n swyddogol, mae’r heddlu wedi cadarnhau mai dyn lleol, 51 mlwydd oed, oedd o.

Dydi ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.