Mae gyrrwr wedi ei arestio yn dilyn damwain ffordd ger Pont-y-pŵl neithiwr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd yr A472 rhwng Pont-y-pŵl a Hafodyrynys tua 11yh.

Yn ôl datganiad yr heddlu, roedd car Seat Ibiza wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda cherddwr.

Mae gyrrwr y cerbyd yn parhau yn y ddalfa yn cael ei holi gan yr heddlu, ac mae wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus.