Alan Williams
Mae cyn Aelod Seneddol Abertawe, Alan Williams, wedi marw yn 84 oed.

Bu’r AS Llafur yn cynrychioli Gorllewin Abertawe am 46 o flynyddoedd.

Cafodd ei ethol i Dy’r Cyffredin yn 1964 gan gamu’r o’r swydd yn etholiad 2010.

Cafodd ei olynu gan yr AS Llafur Geraint Davies.

Dywedodd Geraint Davies heddiw y bydd colled fawr ar ei ôl a bod Alan Williams wedi cynrychioli Abertawe am bron i hanner canrif.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband hefyd wedi bod yn arwain y teyrngedau i Alan Williams heno gan ddweud ei fod yn “wleidydd uchel iawn ei barch.”

Ychwanegodd AS Castell nedd Peter Hain bod Alan Williams wedi bod yn barod iawn i herio a bod parch mawr tuag ato yn y Senedd.

Roedd wedi bod mewn cartref nyrsio yn Llundain am chwe mis ar ôl cael strôc a bu farw neithiwr.

Mae’n gadael ei wraig, Patricia, a thri o blant.