Mae prop Cymru, Adam Jones wedi dweud ei fod yn ei ystyried ei hun yn “fwy na chyfar ar gyfer anafiadau” i’r tîm cenedlaethol.

Mewn datganiad yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw, dywedodd y prop pen tynn 33 oed ei bod yn amlwg nad oedd e “wedi gwneud digon” i ddarbwyllo hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn haeddu ei le.

Cafodd Jones ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fis nesaf, ond roedd yn mynnu ei fod e wedi gwneud y penderfyniad ddiwedd y flwyddyn diwethaf.

Dywedodd Jones mewn datganiad trwy ei asiant: “Eleni, fe wnes i addo i fi fy hunan y byddwn i’n gweithio mor galed â phosib a gwneud popeth allwn i i gael fy lle yn ôl yng ngharfan Cymru.

“Er gwaethaf ymroi’n llwyr i hyn, mae’n amlwg nad oedd yn ddigon.

“Rwy’n teimlo fy mod i’n fwy na chyfar ar gyfer anafiadau’n unig, ac felly rwy wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

“Fe fu’n wythnos anodd i fi, ond mae cefnogaeth y Cymry wedi bod yn eithriadol, fel y bu ers fy nghap cyntaf.

“Yn blentyn, fy mreuddwyd oedd cael chwarae rygbi dros Gymru.

“Mae’r gamp bron yn grefydd yma, ac fe fu’n fraint cael cynrychioli fy ngwlad a chael cynrychioli’r Llewod.

“Rwy wedi dwlu ar bob munud yn chwarae dros Gymru – yr uchelfannau’n llawer iawn mwy na’r iselfannau – ac rwy’n falch iawn o’r hyn wnes i gyflawni yn y crys coch.”

‘Braint ac anrhydedd’

Yn dilyn ei ymddeoliad, dywedodd cyn-gapten y Gweilch a Chymru, Ryan Jones: “Roedd chwarae ochr yn ochr â ‘Bomb’, fel mae’n cael ei adnabod, yn fraint ac yn anrhydedd.

“Yn ystod fy nghyfnod yn gapten a’m gyrfa, mae e wastad wedi bod yno ac yn un o’r enwau cyntaf i’w gynnwys yn y tîm.

“Roedd gwrthwynebwyr yn ei ofni fe, yn ei barchu fe ac yn ei hoffi fe, ac roedd e’n bersonoliaeth fawr yn yr ystafell newid.

“Mae e wedi ymroi’n llwyr i rygbi, ac rwy’n dymuno’n dda iddo fe gyda’r Gleision wrth iddo barhau â’i yrfa gyda’i glwb.”