Mae gŵr a gwraig yn eu 60au wedi cael eu cyhuddo o achosion hanesyddol gam-drin plant fel rhan o Ymgyrch Pallial.

Mae Dennis William Jones, 65, a Aideen Jones, 62 o Seaford, Sussex yn cael eu cyhuddo o achosion sy’n ymwneud a dau fachgen – oedd yn iau nag 16 oed ar adeg y troseddau, ddigwyddodd rhwng 1975 a 1980.

Bydd y cwpwl yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam ar 25 Mawrth i wynebu saith achos o greulondeb yn erbyn plant.

Dyma’r cyhuddiadau diweddaraf o ganlyniad i Ymgyrch Pallial sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Eisoes, mae 31 o ddynion a phedair o ferched wedi cael eu harestio neu eu holi fel rhan o’r ymchwiliad, gydag 15 o bobol yn cael eu cyhuddo.