Alison Hind
Fe fydd cwest i farwolaeth pedwar o bobl fu farw mewn damwain ffordd ar yr A44 yng nghanolbarth Cymru ym mis Mehefin y llynedd yn cael ei gynnal heddiw.

Roedd John Kehoe, 72, a’i wraig Margaret, 65, partner i ferch y cwpl, Martin Pugh, 47, a’i nith ef Alison Hind, 28, yn dod o dref Llanidloes.

Bu farw’r pedwar yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tancer a fan ar y ffordd rhwng Llangurig a Phonterwyd.

Fe lwyddodd merch Alison Hind, Holly Hind, i oroesi’r ddamwain. Er iddi gael ei hanafu’n ddifrifol mae hi bellach wedi gwella.

Yn dilyn y ddamwain, fe fu beirniadaeth yn lleol i ddiogelwch y ffordd, gyda rhai yn dweud ei bod yn un o’r ffyrdd peryclaf ym Mhrydain.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd y byddan nhw’n ystyried cyflwyno gwelliannau i’r A44.