Fe ddylai Llywodraeth Cymru weithredu’n bendant i warchod cymunedau rhag y bygythiad o ffracio, yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Daw’r alwad wedi i weinidog ynni’r Alban Fergus Ewing, gyhoeddi ddoe bod moratoriwm ar ganiatáu ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ffracio yn y wlad nes bod ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn cael ei gwblhau ar y mater.

Yn dilyn hyn, mae Cyfeillion y Ddaear wedi codi amheuon am honiad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, nad oes ganddo’r pŵer i gyflwyno moratoriwm tebyg yng Nghymru.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn dweud bod pwerau Cymru a’r Alban ar olew a nwy ar y tir yn debyg, ac mai drwy ddefnyddio pwerau cynllunio y gwnaeth yr Alban lwyddo i gyflwyno’r moratoriwm.

Gwarchod cymunedau

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio hefo’r pwerau sydd ganddi yn hytrach na chwyno am y rhai nad oes ganddi,” meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb.

“Mae Llywodraeth yr Alban wedi bwrw mlaen a gwneud popeth o fewn ei gallu i warchod cymunedau yno – gan ddweud na fydd yr Alban yn le i arbrofi gyda phrosiectau ffracio.

“A yw Llywodraeth Cymru yn hapus i hynny ddigwydd yng Nghymru?

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.

Arolwg

Yn ystod yr wythnos, fe wnaeth Llywodraeth San Steffan roi addewid i atal ffracio mewn parciau cenedlaethol a hefyd wedi derbyn awgrymiadau Llafur i osod “amodau angenrheidiol” ar y diwydiant nwy siâl.

Ond mae wedi gwrthod galwadau am foratoriwm ar draws y DU er gwaetha’r gwrthwynebiad cyhoeddus.

Roedd arolwg newydd ar-lein o 1,000 o bobl yn dangos bod 40% yn erbyn ffracio, tra bod chwarter – 25% – o blaid caniatáu’r broses yn y DU.

Yn yr Alban dim ond 15% oedd o blaid ffracio.

Mae gan Holyrood reolaeth dros y cynlluniau yn sgil datganoli rhagor o bwerau.