Safle'r ddamwain yng Nghaerfaddon
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio’r bore ‘ma yn dilyn damwain lle cafodd pedwar o bobol eu lladd yng Nghaerfaddon, Gwald yr Haf yr wythnos diwethaf.

Roedd tri dyn o dde Cymru ymhlith y meirw, ynghyd a merch fach bedair oed o Gaerfaddon.

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a dynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Mae dyn arall 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Cafodd y ddau eu harestio bore ma, meddai Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Y ddamwain

Cafodd y pedwar eu taro gan lori 32 tunnell, oedd yn cludo graean, wrth iddi golli rheolaeth wrth fynd i lawr allt serth yn Upper Weston, Caerfaddon ddydd Llun diwethaf.

Bu farw Stephen Vaughan, 34 oed o Benyrheol, Phil Allen, 52 oed o Gasllwchwr, a Robert Parker, 59 o Gwmbrân, ar ôl i’r lori droi drosodd a glanio ar eu car.

Mae nain y ferch bedair oed, Mitzi Rosanna Steady,  yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.