Naoto Kan, cyn-brif weinidog Siapan
Bu cyn-brif weinidog Japan Naoto Kan yn annerch y cyhoedd mewn cyfarfod cyhoeddus ar Ynys Môn y prynhawn yma i wrthwynebu gorsaf niwclear Wylfa Newydd.

Mynnodd Naoto Kan nad oedd modd sicrhau fod ynni niwclear yn hollol saff unrhyw le, gan godi cwestiynau hefyd dros rôl Hitachi wrth ddatblygu Wylfa Newydd.

Roedd sesiwn yng ngwesty Carreg Brân yn Llanfairpwll hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gyn-weithiwr yn y diwydiant niwclear, a dynes oedd wedi gorfod symud o’i chartref ar ôl damwain Fukushima yn 2011.

Ond mae arweinydd Cyngor Môn wedi mynnu nad yw’r rhan fwyaf o gynghorwyr yr ynys yn cytuno â safbwynt Naoto Kan, ac y byddan nhw’n parhau i gefnogi atomfa newydd.

‘Camgymeriad llwyr’

Wrth siarad â’r gynulleidfa fe ddechreuodd Naoto Kan drwy ddiolch am gymorth pobl o Brydain adeg trychineb Fukushima yn 2011.

Bryd hynny fe darodd tsunami anferth arfordir Japan gan achosi ffrwydrad yng ngorsaf niwclear Fukushima Daiichi, a bu’n rhaid i gannoedd o filoedd o bobl ddianc rhag yr ymbelydredd.

Naoto Kan oedd prif weinidog y wlad ar y pryd, ac fe esboniodd fod y trychineb wedi achosi iddo newid ei feddwl am beryglon pwerdai o’r fath.

‘Newid yn llwyr’

“Fe wnaeth fy nealltwriaeth i o ynni niwclear newid yn llwyr [ar ôl Fukushima],” esboniodd Naoto Kan.

“Roedden ni wedi gwneud camgymeriad llwyr, roedd hynny’n amlwg i mi.

“Er mwyn osgoi’r risg yna yn Japan mae pob gorsaf niwclear nawr wedi cael eu cau.”

Esboniodd ei fod nawr o blaid datblygu technolegau amgen i gymryd lle ynni niwclear, gan gynnwys ynni adnewyddadwy fel hydro-electrig, a rhoi’r rhain ym mherchnogaeth cymunedau lleol.

Dywedodd hefyd fod ganddo bryderon ynglŷn â Hitachi, y cwmni oedd yn gyfrifol am Fukushima sydd hefyd eisiau datblygu Wylfa Newydd ym Môn.

“Mae Hitachi yn ceisio adeiladu gorsaf ar Ynys Môn … ond yn fy marn i ddylen nhw ddim fod yn gwneud hyn,” ychwanegodd Naoto Kan.

“Mae rhai’n ceisio dweud bod ynni niwclear yn hollol ddiogel, ond dyw hynny ddim cweit yn wir.”

Dim newid barn

Mynnodd arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams, nad oedd ymweliad Naoto Kan wedi darbwyllo cynghorwyr er iddyn nhw gyfarfod â’i gilydd yn gynharach fore dydd Iau.

Ond fe fynnodd na fyddai cynghorwyr yr ynys  yn cefnogi Wylfa Newydd oni bai eu bod nhw’n hyderus ei fod yn saff.

“Er nad oedd y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr yn cytuno gyda’r hyn a ddywedodd Mr Kan, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig i ni glywed yn uniongyrchol am brofiadau’r ddirprwyaeth a dysgu ohonynt,” meddai Ieuan Williams.

“Er ein cefnogaeth frwd i brosiect Wylfa Newydd, dydyn ni ddim yn hunanfodlon pan ddaw i ddiogelwch yn y diwydiant niwclear. Mae diogelwch o’r pwys mwyaf a bydd rôl y Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR) a rheoleiddwyr eraill yn allweddol.

“Fydd ein cefnogaeth ar gyfer niwclear ddim yn dod ar unrhyw gost ac rydym eisoes wedi egluro hynny i Horizon a Hitachi fel rhan o’r broses ymgynghori sy’n parhau i fynd rhagddi.”