Gwesty'r Celtic Manor
Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar gwrs golff y Celtic Manor yng Nghasnewydd y bore ma.

Cafodd y dyn, o ardal Y Rhosan ar Wy, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent mewn cyflwr difrifol toc wedi 8 y bore ma ar ôl i gerbyd chwistrellu amaethyddol yr oedd ynddo droi drosodd a llithro i lyn ar y cwrs golff.

Cafodd dyn arall 46 oed, sydd hefyd yn dod o ardal Y Rhosan ar Wy, ei gludo i’r ysbyty gyda man anafiadau. Mae’n parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae Heddlu Gwent a thimau iechyd a diogelwch Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.


Cwrs golff y Celtic Manor
Mae’r cwrs golff wedi bod ynghau yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd twrnament Cwpan Ryder ei chynnal ar gwrs y Celtic Manor yn 2010, ac roedd y gwesty hefyd yn gartref i gynhadledd NATO y llynedd.