Ymgyrch achub canolfannau Gwylwyr y Glannau
Mae Canolfan Gwylwyr y Glannau Abertawe yn cau heddiw, gan golli 11 o swyddi.

Ond mae grŵp ymgyrchu yn dal i brotestio yn erbyn y penderfyniad i gau’r ganolfan yn y Mwmbwls.

Mae’n un o wyth canolfan sy’n cael eu cau ar draws gwledydd Prydain ond, yn ôl yr ymgyrch SOS, fe fydd hynny’n golygu colli gwybodaeth leol.

O dan y slogan, Mae Gwybodaeth Leol yn Achub Bywydau, maen nhw wedi galw am newid y penderfyniad a wnaed ym mis Gorffennaf 2011 gan Lywodraeth Prydain.

‘Dim tystiolaeth’

Y ganolfan yn Aberdaugleddau ac un yn ne-orllewin Lloegr fydd bellach yn gyfrifol am achub bywydau ar hyd arfordir de Cymru.

Yn ôl ymgyrchwyr lleol yn Abertawe, doedd yr Asiantaeth Fôr a Gwylwyr y Glannau, yr MCA, ddim wedi cyflwyno tystiolaeth i ddangos y byddai’r gwasanaeth yn gwella trwy gau’r wyth canolfan.

Ond mae’r asiantaeth yn mynnu bod technoleg a datblygiadau eraill yn golygu y bydd y drefn newydd yn ddiogel.

Fe fydd tri o staff Abertawe yn cael gwaith yn Aberdaugleddau.