Mae ymchwiliad ar y gweill, wedi i ddyn oedrannus farw mewn tân mewn ty yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ceisio canfod beth achosodd y tân a gynheuodd yn Heol Chappell, Caerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galu toc wedi 8yh, nos Iau, Mawrth 19.

Fe gafodd dyn a dynes oedrannus eu hachub o’r tân, a’u cludo i Ysbyty Prifysgo Cymru yn y brifddinas. Fe gafodd y dyn ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle bu farw’n ddiweddarach.