Ffred Ffransis - 'gwarth' ar gefnogwyr
Mae ymgyrchydd iaith a hawliau yn dweud ei bod hi’n “warth” nad yw cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi gwneud safiad yn erbyn gorthrwm Israel ar Balestina cyn y gêm fawr rhwng y ddwy wlad.

Mae Ffred Ffransis hefyd wedi cefnogi galwadau i wahardd Israel o chwaraeon rhyngwladol yn llwyr gan fod y wlad yn “gwahardd pobol ddiniwed rhag cymryd rhan mewn bywyd”.

Mae ganddo gysylltiadau busnes gyda Phalesteina lle mae pobol gyffredin, meddai, yn cael eu gormesu gan Israel.

Gwahardd

“Fe ddylid gwahardd Israel o sefydliadau rhyngwladol, nid yn unig am fod rhywun yn anghytuno hefo’u penderfyniadau gwleidyddol ond, fel De Affrica gynt, mae Israel yn gwahardd pobol arbennig rhag cymryd rhan mewn bywyd, oherwydd eu tras a’u cenedligrwydd,” meddai Ffred Ffransis.

“Dydyn nhw ddim yn gymwys i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol fel Ewro 2016, Cwpan y Byd a’r Gêmau Olympaidd – lle mae pob tîm i fod yn gyfartal.”

‘Gwarth arbennig’ ar gefnogwyr

Mae tua 900 o gefnogwyr Cymru wedi hedfan i Israel ar gyfer y gêm allweddol yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewro 16 ac fe fydd rhai’n chwarae gêm yn erbyn cefnogwyr Israel yn Tel Aviv heddiw.

Yn ôl Ffred Ffransis fe ddylen nhw fod wedi gwrthod gwneud hynny, er ei fod bellach yn arferiad cyn gemau mawr.

“Yn yr achos yma fe all cefnogwyr Cymru fod wedi gofyn i chwarae yn erbyn Palestina, ond maen nhw wedi anwybyddu’r opsiwn  hwnnw.

“Mae rhywun yn deall bod Cymru wedi bod yn disgwyl ers 60 mlynedd i chwarae mewn cystadleuaeth mor fawr ond fe allai’r cefnogwyr fod wedi gwneud safiad – dyna sy’n warthus.”

Ymateb Ffederasiwn Cefnogwyr Pel-droed (FSF) Cymru

Cyn y gêm gyfeillgar fydd yn cael ei chynnal am 4:00 o’r gloch y prynhawn yma, dywedodd un o’r trefnwyr, Paul Corkery o Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed (FSF) Cymru:

“Os fyddai Cymru yn chwarae ym Mhalestina neu rywle arall, mi fasen ni wedi chwarae yn eu herbyn nhw. Nid ydan ni fyth yn gwahaniaethu rhwng hil a diwylliannau a fase ni fyth yn llunio rhagfarn yn erbyn neb. Rydym ni’n gadael hynny i’r gwleidyddion.

“O ran gwahardd Israel o chwaraeon rhyngwladol, byddai’n rhaid gwahardd gwledydd eraill hefyd sydd yr un mor ormesol. Mae hynny’n cynnwys llawer o wledydd yn Affrica a Rwsia – unwaith ydach chi’n dechrau gwahardd un, lle ydach chi’n stopio?

Ymgyrch

Daw galwad Ffred Ffransis cyn i ymgyrch gael ei lansio yng Nghaerdydd yfory i alw am wahardd Israel o bêl-droed rhyngwladol yn gyfan gwbl nes bod y wlad yn rhoi’r gorau i ormesu Palestina.

Mae’r Ymgyrch Cydsafiad Palestiniadd yn lansio ‘Chwarae Teg i Balestina’ ac yn cynnal cyfarfod cyhoeddus am 1:30 brynhawn yfory.

Dywedodd llefarydd o’r ymgyrch: “Efallai nad yw cefnogwyr yn ymwybodol bod pob agwedd o fywyd Palestina yn cael ei ddifethaf gan oresgyniad byddin Israel o diroedd Palestina, a dyw pêl-droed ddim yn eithriad.”

“R’yn ni’n galw ar y gymuned ryngwladol i weithredu er mwyn dangos bod rhaid i’r gormes a’r apartheid hwn orffen. Rydym yn galw ar Israel i roi siawns i heddwch.”

Stori: Gwenllian Elias