Llys y Goron Casnewydd (CCA 2.0)
Mae mam ifanc wedi dweud wrth lys nad oedd hi erioed wedi brifo ei merch fach a fu farw yn bump wythnos oed.

Wrth roi tystiolaeth yn yr achos llofruddiaeth yn erbyn ei thad, fe wadodd Sarah Jones nad oedd hi’n gallu ymdopi gyda bod yn fam.

Mae Mark Jones, 45 – tad-cu’r babi – wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad o lofruddio’r plentyn pan oedd yn ei gwarchod yng nghartref Sarah Jones yn y Bontnewydd ger Cwmbran.

Roedd y ferch fach wedi marw o waedu ar yr ymennydd ond roedd post mortem hefyd wedi dangos bod ei choes a’i hasennau wedi cael eu torri yn y dyddiau cynt.

Holi am rwystredigaeth

Yn Llys y Goron Casnewydd, fe fu cyfreithiwr yr amddiffyn yn holi’r fam 26 oed yn galed tros ei hymateb i’r enedigaeth ac i broblemau’n ymwneud â’i thad a thad y plentyn.

Fe ofynnodd a oedd wedi troi ei rhwystredigaeth ar ei merch, Amelia, ond fe atebodd hithau: “Na … babi pum wythnos oed oedd hi”.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Mark Jones wedi dweud celwyddau mawr wrth ei ferch ei hun a hynny’n arwydd o pa mor bell y byddai’n fodlon mynd “i guddio’r gwir am anafiadau Amelia”.

Mae’r tad-cu wedi dweud mai gollwng y babi’n ddamweiniol a wnaeth wrth warchod ar ei ben ei hun ar ddwy noson wahanol.