Cynthia Lennon gan 'J. Lennon' (CCA 4.0)
Mae gwraig gynta’ John Lennon wedi marw – a hithau’n adnabyddus yng ngogledd Cymru lle bu hi’n cadw lle bwyta a gwely a brecwast am rai blynyddoedd.

Yno yr oedd hi’n byw pan gafodd y newyddion fod ei chyn-ŵr, un o aelodau’r Beatles, wedi cael ei saethu’n farw yn Efrog Newydd.

Roedd Cynthia Lennon wedi symud i Rhuthun ar ôl i’w hail briodas fethu yn 1973 ac fe fu’n cadw Oliver’s Bistro am ddeng mlynedd tan ar ôl methiant ei thrydedd priodas i ddyn o’r enw John Twist.

Yn Rhuthun y cafodd ei mab hi a John Lennon, Julian, ei fagu ac roedd yn mynd i ysgol leol.

Gwraig ‘hyfryd’

Yn ôl bywgraffydd y Beatles, Hunter Davies, roedd Cynthia Lennon yn wraig hollol wahanol i John, yn dawel a phreifat. Roedd hi’n ddynes “hyfryd” meddai.

Roedd hi wedi cael ei thrin yn wael gan John, meddai wedyn, ac yntau wedi ei gadael am yr artist Japaneaidd Yoko Ono.

Mae Julian Lennon wedi cadarnhau ar wefannau cymdeithasol fod ei fam wedi marw yn 75 oed ar ôl brwydr yn erbyn canser.