Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym mhentre’ Pontarfynach yng Ngheredigion.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddamwain ar ffordd y B4574 toc cyn 11yb heddiw.

Bu farw un dyn, 42 oed, yn y fan a’r lle, a chafodd dyn arall ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe. Mae mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cau’r ffordd tra bod ymchwiliadau’n parhau i amgylchiadau’r ddamwain.