Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ffydd “cwbl ddi-sail” yng nghynllun Wylfa Newydd am nad oes sicrwydd y bydd yr atomfa yn cael ei adeiladu o gwbl, yn ôl mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B).

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad bod sawl rheswm dros yr amheuaeth na fydd yr orsaf niwclear newydd ar Ynys Môn yn cael ei adeiladu, gan gynnwys  y cynnydd mewn buddsoddiadau ynni adnewyddol diweddar.

Fodd bynnag mae’r Llywodraeth yn ymddwyn fel petai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, meddai PAWB, er mai yn Japan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

“Mae sawl rheswm dilys dros feddwl na chaiff yr orsaf ei hadeiladu ac nid PAWB yn unig sy’n meddwl hyn.  Ceir yr un amheuaeth ymysg cefnogwyr yr orsaf a’r diwydiant niwclear yn gyffredinol,” meddai Robat Idris o PAWB.

“Dylid hefyd ystyried y ffaith fod buddsoddiadau mewn ynni adnewyddol yn prysur danseilio’r achos economaidd dros ynni niwclear.  Gweler yr Almaen fel enghraifft – os gall gwlad fwyaf llewyrchus Ewrop wneud heb ynni niwclear, siawns y medr Môn wledig a thlawd.”

Horizon yn ‘bypedau’

Ychwanegodd Dylan Morgan o’r mudiad mai “pypedau” yn unig yw’r cwmni datblygu Horizon ac mai cyfarwyddwyr Hitachi fydd a’r gair olaf:

“Does dim ots faint o sŵn mae gwleidyddion Caerdydd na San Steffan yn ei wneud o blaid y peth, yn y diwedd mae’r penderfyniad am gael ei wneud yn Japan gyda chwmni Hitachi,” meddai.

“Dim ond pypedau yw Horizon, does dim grym ganddyn nhw fel cwmni lleol.

“Ar ben hynny oll, mae ansicrwydd mawr gyda gorsaf Hinkley yng Ngwlad yr Haf. Fe all y penderfyniad i fuddsoddi yn fanno fod cyn belled â chwe blynedd i ffwrdd. Ac mae cwmni Areva, fyddai’n darparu’r adweithydd, mewn dyfroedd ariannol dyfnion iawn ar hyn o bryd.

“Dyma’r math o fethdalwyr economaidd ac amgylcheddol mae Llywodraethau Cymru a Phrydain yn rhoi eu ffydd ynddyn nhw yn gwbl ddi-sail ar hyn o bryd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.