Leanne Wood
Mae’n ymddangos bod presenoldeb Leanne Wood yn y dadleuon teledu Prydeinig wedi rhoi hwb mawr i’w phroffil a’i phoblogrwydd personol, yn ôl pôl newydd.

Heddiw fe gyhoeddodd YouGov eu pôl Baromedr Gwleidyddol Cymreig diweddaraf, gan ddangos pa mor boblogaidd oedd gwahanol arweinwyr gwleidyddol gyda marc allan o ddeg.

Leanne Wood oedd yr arweinydd mwyaf poblogaidd o’r rheiny oedd yn yr arolwg, gyda sgôr cyfartalog o 4.8 allan o ddeg.

Cafodd y wybodaeth ei ryddhau cyn y ddadl deledu rhwng yr arweinwyr yng Nghymru ar ITV am 8.00 o’r gloch heno.

Mwy poblogaidd

Cafodd 11 o arweinwyr gwleidyddol eu cynnwys yn yr arolwg barn gan YouGov, sef arweinwyr y pum prif blaid Brydeinig, a’r chwech fydd yn rhan o ddadl Cymru ITV heno.

Leanne Wood ddaeth i’r brig gyda sgôr cyfartalog o 4.8, oedd 0.4 yn uwch na’i sgôr yn y pôl diwethaf o’r fath.

Cynyddodd poblogrwydd pob un o’r tri arweinydd Prydeinig mwyaf blaenllaw gydag Ed Miliband yn cael 4.5 (+0.5), David Cameron ar 3.8 (+0.4), a Nick Clegg ar 3.5 (+0.4).

Doedd dim newid i sgôr Natalie Bennett o 3.9, ac fe ddisgynnodd Nigel Farage i 3.3 (-0.1).

O’r arweinwyr eraill yng Nghymru Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd â’r sgôr gorau y tu ôl i Leanne Wood, heb newid ar 4.4.

Cafodd Owen Smith o’r Blaid Lafur sgôr o 3.9, roedd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ar 3.6, Pippa Bartolotti o Blaid Werdd Cymru ar 3.3 (-0.6), a Nathan Gill o UKIP ar 3.0.

Codi ymwybyddiaeth

Yn ogystal â marcio’r arweinwyr allan o ddeg, roedd gan y bobl wnaeth ymateb i’r pôl yr opsiwn o ddewis ‘ddim yn gwybod’.

Roedd y canran a ddewisodd yr opsiwn hwn yn awgrym o “ba mor weledol oedd arweinydd gwleidyddol”, yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Caerdydd sydd wedi dadansoddi’r canlyniadau.

Ac mae’n ymddangos bod cael presenoldeb yn  y dadleuon teledu wedi codi proffil Leanne Wood a Natalie Bennett yng Nghymru yn sylweddol, gyda’r ddwy yn gweld eu canran ‘ddim yn gwybod’ yn gostwng yn sylweddol.

Dewisodd 22% o bobl yr ymateb ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer Leanne Wood, gostyngiad o 17% ers y pôl diwethaf, gyda 35% yn dewis yr opsiwn hwnnw ar gyfer Natalie Bennett (-19%).

Dewisodd 7% neu’n llai o bobl yr opsiwn ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer David Cameron, Ed Miliband, Nick Clegg a Nigel Farage, gan awgrymu bod eu proffil nhw yn uchel yng Nghymru.

Ond doedd hi ddim yn newyddion cystal i’r arweinwyr eraill fydd yn cymryd rhan yn y ddadl deledu yng Nghymru heno.

Kirsty Williams oedd â’r canran isaf ar ôl Leanne Wood, gyda 41% (-2) yn dewis yr opsiwn ‘ddim yn gwybod’.

Roedd dros hanner (54%) y bobl ddim yn gwybod beth oedd eu barn nhw am Stephen Crabb, a dau o bob tri ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer Pippa Bartolotti, Owen Smith a Nathan Gill.