Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r fenyw y cafwyd hyd i’w chorff mewn fflat ym Mhontypridd ddoe.
Roedd Tacey Woodford yn 47 oed, a doedd neb wedi’i gweld ers dydd Mawrth, Ebrill 21, pan adawodd dafarn y Skinny Dog gyda dyn.
Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod y corff wedi’i ddarnio pan ddaeth plismon o hyd iddo.
Mae dyn 50 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad a marwolaeth Tracey Woodford.