Fe fydd “y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth” yn ymwneud â digartrefedd ers dros 30 mlynedd yn dod i rym yng Nghymru heddiw.

Prif bwrpas y ddeddf yw sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu sy’n wynebu bod yn ddigartref yn cael help cyn gynted â phosib.

Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio gyda phobl sydd yn wynebu risg o golli eu cartrefi o fewn 56 diwrnod a’u helpu i geisio datrys eu problemau.

Y gobaith yw y bydd yn helpu tri o bob pedwar o bobl sy’n wynebu digartrefedd rhag colli eu cartrefi.

O heddiw ymlaen fe fydd gan awdurdodau lleol mwy o hyblygrwydd o ran defnyddio eiddo preifat sy’n cael ei rentu er mwyn darparu cartref i bobl sy’n wynebu bod yn ddigartref.

‘Carreg filltir’

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Heddiw rydyn ni wedi cyrraedd  carreg filltir bwysig.

“Hon yw’r ddeddf gyntaf o’i math yn y DU, a’r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd ers dros 30 mlynedd o leiaf.

“Rydw i’n cydnabod yr her sy’n wynebu’r rhai sy’n gysylltiedig â’r sector tai, gyda phwysau parhaus ar gyllidebau cyhoeddus, cynnydd mewn costau byw a chynnydd yn y galw am dai fforddiadwy. Dyna pam rydyn ni’n cyflwyno’r ddeddfwriaeth bwysig hon, sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd a lleihau nifer y bobl sy’n mynd drwy’r trawma o golli eu cartrefi.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd, sy’n rhan o’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol am gydweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r diwydiant tai – gan gynnwys cymdeithasau tai a’r sector rhentu preifat.