Simon Brooks
Mae’r corff sy’n gyfrifol am filoedd o hen dai cyngor yng Ngwynedd wedi trin Comisiynydd y Gymraeg gyda “dirmyg”, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Daeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) dan lach y mudiadau iaith y llynedd oherwydd eu bwriad i lenwi dwy swydd fras ar gyflogau dros £80,000 heb unrhyw amod bod yr uwch reolwyr hyn yn medru siarad y Gymraeg.

Er i Gomisiynydd y Gymraeg ofyn i CCG oedi’r ddau benodiad iddi hi gael ymchwilio i’r mater, aeth y broses benodi yn ei blaen ac mae un uwch swyddog di-Gymraeg wedi ei benodi ac un arall sy’n ddysgwr – ond nid oes unrhyw amod cyflogaeth arno yntau i ddysgu siarad Cymraeg.

Hefyd, nid oedd CCG yn fodlon dangos dogfennau perthnasol i’r Comisiynydd heb fod goruchwyliaeth yn bresennol.

Yn ei hadroddiad ar y mater, mae Comisiynydd y Gymraeg yn nodi ei bod yn ‘annerbyniol’ bod CCG ond am i’w swyddogion weld ‘dogfennau y gofynnwyd amdanynt o dan oruchwyliaeth, a heb y gallu i wneud copïau ohonynt’.

“Mae’n rhyfeddol fod unrhyw gorff yn medru trin Comisiynydd yr Iaith, a ni fel siaradwyr Cymraeg, hefo’r ffasiwn ddirmyg,” meddai Dr Simon Brooks o fudiad Dyfodol i’r Iaith.

“Mae dogfennau gofynnodd y Comisiynydd amdanyn nhw heb eu rhyddhau. Mae staff di-Gymraeg wedi’u penodi cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi hyd yn oed, a does yna ddim gorfodaeth cytundebol ar y Cyfarwyddwr di-Gymraeg newydd i ddysgu Cymraeg.

“A hyn mewn corff ble mae 95% o’r staff yn siarad Cymraeg, heb son mai Cymraeg ydi iaith bob dydd y rhan fwya’ o gymunedau Gwynedd.

“Dyma her uniongyrchol i awdurdod y Comisiynydd, ac hefyd yn sarhad ar bobl Cymru.”

Y cefndir

Yn ei Gynllun Iaith gwirfoddol mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn datgan: ‘Gyda mwyafrif llethol y staff yn ddwyieithog, iaith weithredu fewnol CCG yw Cymraeg ac fe’i siaredir fel norm. Anogir i bob memorandwm, e-bost a chofnodion mewnol fod yn y Gymraeg yn unig’.

Hefyd mae’r Cynllun Iaith yn son am ‘sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg’ a bod y gallu hwnnw ‘yn gymhwyster hanfodol ar gyfer pob swydd o fewn CCG’.

Ond mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn dadlau eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd penodi siaradwyr Cymraeg i’r swyddi uwch reoli, ac wedi hepgor gofynion iaith “er mwyn ceisio cynyddu ein siawns o ddenu ymgeiswyr addas gyda phrofiad angenrheidiol”.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg nid oedd modd gorfodi CCG i gadw at eu haddewidion iaith.

‘Mae’r achos hwn,’ meddai Meri Huws yn ei hadroddiad, ‘wedi arddangos yn glir nad yw’r drefn bresennol o ofyn i ddarparwyr tai cymdeithasol weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg gwirfoddol yn ddigonol, o ran gorfodi sefydliadau o’r fath i fod yn atebol i’w hymrwymiadau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg’.

Hefyd yn yr adroddiad mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod CCG wedi methu profi iddi ‘bod diffyg argaeledd siaradwyr Cymraeg i wneud y swyddi’ ac heb ddangos ‘bod y sefydliad eisoes wedi profi anawsterau wrth fynd ati i recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi uwch’.

Yn ddiweddarach fis yma bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori ar Safonau fydd yn cymryd lle Cynllun iaith gwirfoddol CCG.

Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi ymateb drwy ddweud eu bod “ wedi gweld yr adroddiad ar wefan y Comisiynydd ac yn cydnabod y cynnwys.

“Rydym yn edrych ar ffyrdd o gydweithio gyda’r Comisiynydd i’r dyfodol ac yn benodol felly ar yr ymgynghoriad ar y Safonau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn sgil Mesur Iaith 2011.”

Ymateb y Cynghorydd Siân Gwenllïan – wnaeth ymddiswyddo o Fwrdd Rheoli CCG dros y mater – yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg