Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru (ERS) yn honni mai’r etholiad cyffredinol diwethaf oedd y “canlyniad fwyaf anghyfrannol yn hanes y DU”.

Daw’r honiad yn dilyn adroddiad gan ERS i batrwm pleidleisio yn yr etholiad.

Canfu’r adroddiad fod 853,000 o bleidleisiau yng Nghymru wedi mynd i ymgeiswyr a gollodd.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod 35 o 40 ASau Cymru, sef  88% ohonynt, wedi methu ag ennill cefnogaeth dros hanner eu hetholwyr – y gyfradd uchaf yn y DU gyfan.

Yr AS enillodd gyda’r gyfran isaf o bleidleisiau oedd Albert Owen i Lafur yn Ynys Môn ac enillodd Llafur 63% o’r seddi yng Nghymru gyda dim ond 37% o’r bleidlais.

‘Gorliwio’

Dywedodd yr ERS fod y canfyddiadau yng Nghymru wedi cael eu hailadrodd ar hyd a lled y DU, lle mae gwahaniaethau gwleidyddol rhwng y rhanbarthau a chenhedloedd o fewn y DU wedi cael eu gorliwio gan y dull lle mae pleidleisiau yn cael eu troi yn seddi trwy’r system bleidleisio “cyntaf i’r felin.”

Mae’r ERS, yn hytrach, yn cefnogi defnyddio’r ‘Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl’ (‘Single Transferable Vote’ neu STV) ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU.
Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i ni erioed weld pedair plaid wahanol yn ennill yn y pedair gwlad yn y DU, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill yn Lloegr, yr SNP yn yr Alban, y DUP yng Ngogledd Iwerddon a Llafur yma yng Nghymru.

“Ac eto, fel gyda’r enillwyr yn y rhannau eraill o’r DU, mae’r seddi enillodd Llafur yng Nghymru yn gor-ddweud maint eu buddugoliaeth, gyda Llafur yn ennill 63% o’r seddi ar 37% o’r bleidlais.”

‘Twyllo’

Ychwanegodd: “Nid yn unig fod hyn yn fater o degwch i bleidleiswyr a gwneud i’w pleidleisiau gyfrif. Mae ein map etholiadol yn dwyllodrus – mae’n edrych fel bod ardaloedd cyfan o flociau monolithig o goch Lafur, o  las Ceidwadol, neu felyn yr SNP.

“Ond fel rydym ni’n gweld yng Nghymru nid yw hyn yn adlewyrchu’r gwir go iawn. Nid yw’r pleidleisiau ar gyfer gwahanol bleidiau yn cael eu hadlewyrchu mewn seddi a enillwyd yn yr ardaloedd hyn.

“Rydym wedi gweld manteision system bleidleisio decach yn y Cynulliad, gan roi mwy o lais i bleidiau eraill. Mae’n hen bryd i San Steffan ddal i fyny gyda’r gwledydd datganoledig yn hyn o beth.”