Mae Heddlu’r De yn parhau i holi dyn 43 oed ar amheuaeth o lofruddio dynes 67 oed ym mhentref Tonteg ger Pontypridd.

Cafodd corff y ddynes ei ddarganfod mewn tŷ yn y pentref tua 5.30 brynhawn dydd Sadwrn.

Mae’r dyn yn cael ei holi gan yr heddlu yng ngorsaf Pen-y-bont ar Ogwr.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 01656 306099.