Cyngor Sir Ceredigion
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gyngor Sir Ceredigion i beidio â chau rhagor o ysgolion nes eu bod nhw wedi ymchwilio i effaith hynny ar y Gymraeg.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod angen cael moratoriwm nes bod yr awdurdod lleol wedi ymchwilio i effaith cau ysgolion ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf.

Daw’r alwad yn dilyn argymhelliad Cyngor Ceredigion i gau Ysgol Llangynfelyn ger Aberystwyth, gyda chyfnod ymgynghori ynglŷn â’r penderfyniad yn dod i ben dros y penwythnos.

“Hollol anghyfrifol”

Mewn ymateb ysgrifenedig i’r ymgynghoriad dywedodd y mudiad iaith y byddai’n “hollol anghyfrifol” i Gyngor Sir Ceredigion gau’r ysgol heb wneud ymchwil i weld a fyddai hynny’n effeithio ar iaith y plant yn eu hysgolion newydd.

“Mae digon o ysgolion pentrefol cyfrwng Cymraeg wedi cael eu cau yng Ngheredigion yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mewn siroedd cyfagos fel Caerfyrddin cyn hynny,” meddai’r ymgyrchwyr iaith.

“Mater ymchwil eitha’ rhwydd fydd gweld a yw disgyblion o ddalgylchoedd yr ysgolion hyn wedi mynd at yr ysgolion a ddynodwyd a pha gyfran sydd wedi’u hanfon at ysgolion Saesneg eu cyfrwng.

“Mater ymchwil eitha’ syml fydd cyfri perfformiad academaidd y disgyblion presennol o’r dalgylchoedd o gymharu â disgyblion a fynychent ysgolion yn eu pentrefi cyn hynny.

“Mater ymchwil gweddol syml fydd cyfri effaith cau ysgolion ar y farchnad dai yn y cymunedau hyn – a yw teuluoedd ifainc yn llai tebyg o brynu tai yn y cymunedau?

“Ond mae Ceredigion a siroedd eraill yn parhau i gau ysgolion a pheri risg o effaith negyddol iawn ar yr iaith ac ar ein cymunedau gwledig heb wneud ymchwil o’r fath. Dylai fod moratoriwm ar gau ysgolion nes cyflawni’r ymchwil.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.