Mae deddfwriaeth i ddiwygio’r system gynllunio yng Nghymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.

Daeth y Bil Cynllunio (Cymru) yn Ddeddf Cynulliad mewn seremoni selio swyddogol ddydd Llun.

Bwriad y ddeddf yw darparu fframwaith modern i weithredu’r system gynllunio a’i gwneud yn addas ar gyfer y 21ain Ganrif.

Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Bydd y ddeddfwriaeth yn cael effaith sylweddol ar y ffordd mae system gynllunio Cymru’n gweithio.

“Bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gymeradwyo ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol; caniatáu creu cynlluniau strategol ar draws ardaloedd gwahanol gynghorau a galluogi’r cyhoedd i fod yn rhan o’r system gynllunio o’r camau cyntaf.”

Ychwanegodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant y byddai’r ddeddf newydd yn “creu system gynllunio o’r radd flaenaf.”

Pasiwyd y Ddeddf Cynllunio gan y Cynulliad ar 19 Mai.