Guto Dafydd
Fe fydd y Prifardd Guto Dafydd yn olrhain hanes cystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer rhaglen sy’n cael ei dangos ar S4C.

Ers i Hedd Wyn ennill ar yr awdl yn Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw yn 1917, tyfodd y gadair yn symbol eiconig i’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yng ngolwg llawer, hon yw’r brif wobr a gysylltir â’r brifwyl.

Mewn ymgais i unioni’r sefyllfa, mae Guto Dafydd o Bwllheli, enillydd coron 2014, yn mynd ati i ddadlau ei hachos trwy olrhain hanes y gystadleuaeth.

Mae hanes y gystadleuaeth ei hun yn ymestyn yn ôl i’r 1860au. Bydd Guto Dafydd yn datgelu mai’r hyn roddodd fod i’r goron yn y lle cynta’ oedd cyfres o ddadleuon chwyrn, a chyhoeddus, ymysg rhai o feirdd enwocaf y cyfnod.

‘Gwobr eilradd?’

“Yn anffodus mae ’na ryw fath o deimlad bod y goron yn wobr eilradd i’r gadair, ond dydw i ddim yn deall pam oherwydd mae’r safon yn aml iawn yn well na’r gadair,” meddai Guto Dafydd.

Bydd Guto Dafydd  yn mynd ar daith o gwmpas Cymru i holi haneswyr, beirdd a chrefftwyr am hanes y gystadleuaeth, gan gynnwys y Prifardd Mererid Hopwood, ac enillydd dadleuol coron Eisteddfod Caerdydd 1978, Siôn Eirian.

Ychwanegodd Guto Dafydd: “Pan enillais i, sylweddolais i go iawn faint mae’n ei olygu i bobl ac roedd yr ymateb yn fy ardal i a thu hwnt yn wefreiddiol.”

“Roedd y rhaglen yn gyfle i fynd o dan yr wyneb a ffeindio allan mwy am y wobr hynod hon.

“Mae dal yna ryw argraff bod cerddi caeth yn fwy o gampwaith na cherddi rhydd ond dwi’n credu bod hynny’n hollol anghywir.”

Bydd Pethe: Stori Coronau y ’Steddfod ar S4C nos Lun, 3 Awst, a hynny ar ddiwrnod y coroni.