Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



William a Kate am fyw yng nghastell Caernarfon

Ebrill 1, 2011 00:00, Diweddarwyd Mawrth 31, 2011 20:01


Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae’r Teulu Brenhinol wedi cadarnhau y bydd y Tywysog William a Kate Middleton yn byw yng nghastell Caernarfon ar ôl eu priodas ddiwedd y mis.

Cyhoeddodd Tŷ Clarence y byddai £15m yn cael ei fuddsoddi mewn adfer rhan helaeth o aden ogleddol y castell, gan ychwanegu ystafelloedd fyw, ystafelloedd gwely a cheginau at Dwr yr Eryr a Thwr y Frenhines.

Bydd y pâr priod yn byw yn eu bwthyn presennol ar Ynys Môn, hyd nes bod y gwaith yn cael ei gwblhau, tua haf 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol y byddai’r castell ar gau i dwristiaid tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ond y byddai’n ail-agor yn rhannol pan nad yw’r Tywysog gartref.

“Mae gan Gastell Caernarfon gysylltiadau cryf â thraddodiad Tywysog Cymru,” meddai’r llefarydd ar ran y Frenhiniaeth wrth Golwg 360. “Mae’n gwneud synnwyr perffaith fod y Tywysog William a Kate Middleton yn byw yno, ymysg eu pobol nhw.

“Mae’n gyfleus i’r Tywysog William deithio i’w waith yn y Fali, ac ni fydd rhaid iddo deithio’n bell pan fydd yn cael ei goroni’n Dywysog Cymru yn swyddogol chwaith.”

‘Hwb i’r dref’

Dywedodd y cynghorydd Taeog Jones, sy’n cynrychioli ward y castell, y byddai cael y Tywysog a’r darpar-Dywysoges yn byw yno yn hwb enfawr i’r dref.

“Mae’r briodas yn mynd i gael sylw yn fyd-eang a bydd pawb eisiau dod i Gaernarfon i weld ble mae William a Kate yn byw,” meddai.

“Mae pobol Caernarfon wrth eu bodd â’r Teulu Brenhinol ac fe fyddwn nhw’n rhoi croeso mawr i Dywysog a Thywysoges Cymru.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Russell Jones , Ebrill 1, 2011 12:45 am

Bydd yn hunllef os yn wir….. ond siwr o fod Ffwl Ebrill!

§

Dai Tomos , Ebrill 1, 2011 10:18 am

Ffwl Ebrill!

§

C Davies , Ebrill 1, 2011 12:32 pm

Ha ha, da iawn! :)

§

Adam Jones , Ebrill 1, 2011 12:40 pm

Dyna i chi ffŵl Ebrill sydd yn ddigon i ala dyn i boeri’i ddisgled dros y sgrin i gyd.

§

Neilyn , Ebrill 1, 2011 12:54 pm

Y newyddion gora dwi di glywad ers yr amser yma flwyddyn yn ol. Ac i goroni’r llawenydd, dwi’n fawr obeithio gweld mochyn pinc True Wales yn chwifio’n y gwynt uchlaw’r prif dwr pan fydd y cwpwl brenhinol ‘gartref’. Splendid!

§

CGT , Ebrill 1, 2011 1:18 pm

Huw Edwards yn mynd i fyw i Buckingham Palace, clywais i !

§

C Davies , Ebrill 1, 2011 2:53 pm

Wedi clywed fydd y ddau yn symud i fyw i 12 Chapel Teras, Gurnos, Merthyr, drws nesaf i’r bwcis.

§

Fon Gruffydd , Ebrill 2, 2011 12:46 am

Clywais i hefyd fod David Cameron yn awyddus i ymddeol fel prif weinidog y DU, cymryd drosodd y Black Boy, dysgu Cymraeg a sefyll fel ymgeisydd cynulliad Gweriniaethwyr Cymru. Does dim modd cadarnhau hyn yn swyddogol eto, wrth gwrs. ;-)

§

Lawrence Huxham , Ebrill 3, 2011 1:31 am

Mae’n warthus iawn ei fod nhw’n mynd i fyw yng nghastell Caernarfon fel traddodiad Tywysog Cymru. Ond dydy tywysog Cymru gwyr ddim yn goronwy yng nghastell Caernarfon o gwbl. Y peth ydy, oedd y tywysogio Cymreig ers 1100 wedi goronwy yn Aberffraw yn Wynedd ers talwm cyn oedd Edward wedi gipgio Cymru, wedi lladd ein tywysog CYmru Llywelyn Lliw Olaf yn 1283, lladd ein beirdd Cymreig, lladd ein milwyr gwyr Cymraeg ac yn replasio nw efo milwyr Saesneg, Tywysog Cymru Saesneg sy’n seiliedig yng Nghaernarfon ac wedyn wedi dinistrio popeth sy’n Cymreig iawn cyn 1283. Oedd Owain Glyndwr ydy Tywysog Cymru gwyr iawn ti’n cofio ac oedd hwn yn goronwy yn 1400 ym mis Medi, ac yn wedi bygythiad Lloegr a tywysog Cymru Saesneg fel Harri V ac wedyn wedi adeilad y senedd Cymreig gyntaf yn 1404 yn Machynlleth. Ond yn anfodus wedi colli ein annybyniaeth. Y oeth ydy, dydi castell Caernarfon ddim yn lle trafodiad i tywysog Cymru gwyr o gwbl. Felly oedd y brenhines yn jyst dweud hwna oherwydd oedd y Saeson fel brenhin Edward wedi adeiladu castell Caernarfon ac yn wneud y tywysog Cymru Saesneg yn traddodiadol, sut mae’n warthus ydy hwna yndi? wel y peth ydy, yn y barn Brenhines lloegr mae’n traddodiadol i tywysog Cymru yng nghastell Caernarfon fel Kate a William achos brenhin Edward wedi dinistrio ein tywysog gwyr Cymru fel Llywelyn Llyw Olaf. Ond yn yr ein barn ni ydy, dydi castell Caernarfon ddim yn traddodiadol o gwbl, achos dydi Llywelyn Lliw olaf ddim yn goronwy yng nghastell Caernarfon, nid llywelyn fawr a nid Owain Gwynedd chwaith a nid Owain Glyndwr chwaeth achos oedd Owain Glyndwr wedi goronwy yn lle tu allan Machynlleth yn 1400 ble oedd y tywysogion Cymreig gwyr wedi goronwy yn traddodiad mwyaf na chastell Caernarfon. Felly paid a gwrando wrth y Brenhines lloegr wrth gwrs, achos mae hon yn jyst dall a ddim yn dallt ein hanes Cymraeg o gwbl. Felly, y peth ydy, Owain Glyndwr, Llywelyn Lliw Olaf, Owain Gwynedd a Llywelyn Fawr ydy tywysogion gwyr Cymru, nid tywysog Edward yng nghaernarfon, nid tywysog Charles a nid tywysog William chwaeth. Mae hwn yn jyst imperialism man siwr. Felly os wyt ti’n y Cymro neu Cymraes dda, felly meddwl am y hanes Cymru, dysgu hanes Cyraeg cyn byddwch yn wneud y sylw ac yn meddwl beth oedd y brenhines lloegr yn ddweud. Felly dyma pam y mis Ebrill fydd Balchder Cymru yn mynd i Machynlleth achos dyma lle oedd Owain Glyndwr wedi goronwy a dyma ble oedd Glyndwr wedi adeilad y senedd Cymraeg gyntaf yn 1404 cyn y llywodraeth y cynulliad yn 1999 yng Nghaerdydd.

§

Lawrence Huxham , Ebrill 3, 2011 1:33 am

mae’n warthus iawn am y peth ei fod nhw’n cefnogi brenhinol Saesneg sy’n meddwl ei fod nhw’n tywysog Cymraeg i gyd. Mae’n pechod i anghofio am y tywysog gwyr Cymraeg fel Owain Glyndwr a Llywelyn Lliw Olaf cyn Edward a Saeson wedi dinistrio ein annybyniaeth. Felly dyma eich dewis, cefnogi Kate a William sy’n symbol fel tywysogion Saesneg yng Nghymru, neu cofio Owain Glyndwr a Llywelyn fel tywysogion gwyr Cymru? Eich dewis.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.