Ieuan Wyn Jones
Mae dros 750 o bobl wedi ymuno â grŵp sydd wedi’i greu ar wefan Facebook heddiw i brotestio yn erbyn gwahardd siarad Cymraeg yng nghegin Gwesty Carreg Môn, Llanfairpwll.

Daw hyn wedi i staff cegin y gwesty dderbyn llythyr gyda’u slip cyflog ddiwedd y mis diwethaf yn eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yn y gegin “am resymau diogelwch”.

Mae Ieuan Wyn Jones, sy’n ceisio cael ei ailethol fel Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, eisoes wedi dweud fod hyn yn “gwbl annerbyniol” ac y bydd yn gofyn i’r gwesty “ailystyried” .

Mae ymgyrchwyr y grwp Facebook yn pwyso ar reolwyr y gwesty i newid eu polisi.

Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio polisi’r gwesty.

 “Mae gwrthod yr hawl i staff siarad Cymraeg yn rhywbeth na ellir ei oddef ac yn mynd yn gwbl groes i’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Os yw’r Gymraeg i oroesi yn yr unfed ganrif ar hugain mae’n rhaid sicrhau fod gan bawb yr hawl i’w defnyddio yn y gweithle.”

Ffrae flaenorol

Fe ddywedodd Angharad Jones o Lanfairpwll, un o weinyddwyr y grŵp protest ar wefan Facebook, ei bod wedi cymryd rhan mewn ymgyrch oedd yn cynnwys y gwesty yn ôl yn 2006. Ymgyrch i “dynnu fflag Jac yr Undeb o du allan i’r gwesty.”

Roedd dros fil o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am dynnu’r fflag i lawr, meddai. Roedd y fflag wedi’i leoli ar wal, peth ffordd o fynedfa’r gwesty – wal oedd yn agos at y ffordd oedd yn arwain i mewn i bentref Llanfairpwll.

“Dyna’r olygfa gyntaf yr oedd pobl yn ei weld pan oedden nhw’n dod i mewn i Lanfairpwll. Doedden ni ddim yn teimlo ei fod o’n cynrychioli neges  ‘Môn Mam Cymru’,” meddai Angharad Jones cyn dweud bod y gwesty wedi tynnu’r fflag i lawr yn ddiweddarach.

“Roedd o’n fater sensitif ar y pryd – a ma’  hwn rŵan yn fwy sensitif,” meddai.

“Mae’n ymwneud â hawl pobl i siarad eu mamiaith yn eu gwlad eu hunain.”