Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn mynd i swyddfeydd arweinwyr y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru yfory er mwyn “cyflwyno neges frys am ddyfodol S4C”.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac undebau llafur wedi cadarnhau y bydden nhw’n mynd i Langefni, Aberhonddu a Chaerdydd gyda phroclamasiwn yn “galw ar i’r pleidiau yng Nghymru fynnu bod adolygiad llawn o’r sianel yn lle cynllun presennol y Llywodraeth.”

Mae 24 mudiad gwahanol gan gynnwys NUJ, BECTU, Undeb y Cerddorion, Equity ac Undeb yr Ysgrifenwyr wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn galw arni i atal y cynlluniau.

“Mae gwrthwynebiad cynyddol i’r toriadau enfawr i’n hunig sianel deledu Cymraeg a’i huno â’r BBC ac mae hwn yn bwnc y mae pobl Cymru yn gwbl unedig arno,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae rhaid i’r pleidiau sydd mewn llywodraeth yn Llundain wyrdroi eu penderfyniad i anwybyddu llais yr holl bleidiau yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i’r pleidiau i gyd fynnu bod yr adolygiad llawn y galwon nhw amdano yn digwydd yn lle cynlluniau annoeth Llywodraeth Prydain.”

Y proclamasiwn…

Galwn arnoch fel arweinydd eich Plaid yng Nghymru i fynnu gan y Prif Weinidog David Cameron fod adolygiad annibynnol a chynhwysfawr yn cael ei gynnal i ddyfodol S4C yr unig Sianel Deledu Cymraeg yn y Byd.

Galwn hefyd ar i’r holl wleidyddion sy’n cynrychioli Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac yn Senedd Prydain Fawr yn Llundain i ddatgan eu cefnogaeth lwyr i’r adolygiad ac i ddarlledu drwy gyfrwng y Gymraeg….

Ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru nes i’r adolygiad trylwyr hwn gael ei gynnal. Am hynny ni ddylai S4C fod yn rhan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.

Bu i chi ymrwymo i hyn yn ôl ym Mis Tachwedd 2010. Daeth yn amser bellach i chi wneud safiad pendant dros ddyfodol S4C a darlledu Cymraeg.”