Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid yn barod i ateb yr her

Ebrill 26, 2011 09:55, Diweddarwyd am 09:58


Arweinydd Palid Cymru, Ieuan Wyn Jones
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, sy’n dweud fod angen trawsnewid sefyllfa addysg, economi, iechyd a chysylltiadau Cymru…

Mae Etholiad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai yn gyfle i ni newid ein cenedl er gwell.

Yn y cyfnod heriol hwn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol i drawsnewid ein cenedl.  Bydd Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf i wella safonau mewn ysgolion a chreu swyddi o safon ledled Cymru.

Mae ein prif bolisïau yn canolbwyntio ar bedwar maes: addysg, yr economi, iechyd a chysylltu Cymru fel cenedl.

O ran addysg, bydd y Blaid yn gwneud yn siŵr y gall plant sy’n gadael yr ysgol gynradd ddarllen, ysgrifennu a chyfrif i’r safon a ddisgwylir. Ar hyn o bryd, mae gormod o’n plant yn gadael yr ysgol heb feddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo mewn bywyd. All hyn ddim parhau. Bydd llywodraeth y Blaid yn cael y pethau sylfaenol yn iawn i genedlaethau’r dyfodol.

Bydd y Blaid yn helpu i dyfu ein heconomi a’n busnesau bach, yn creu miloedd o swyddi newydd ac yn helpu pobl i gael yr hyfforddiant a’r sgiliau ar gyfer swyddi tymor hir. Bydd cwmni Adeiladu dros Gymru y Blaid yn buddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai a thrafnidiaeth ac yn creu hyd at 50,000 o swyddi newydd ar draws Cymru. Bydd Bonws Busnesau Bach y Blaid yn cyflwyno cynllun newydd gwerth £90 miliwn i roi benthyciadau i fusnesau bach a hefyd sicrhau parhad rhyddhau treth i helpu datblygu canol ein trefi.  Bydd y Blaid hefyd yn cefnogi 30,000 prentisiaeth ac yn annog sgiliau a gallu pobl ifanc i gael swyddi ar draws Cymru.

O ran iechyd, byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau gofal iechyd cyflym ac effeithiol yn eich cymuned.  Pan ddaeth y Blaid i lywodraeth, rhoesom ddiwedd ar gynllun trychinebus Llafur i israddio ysbytai, gan amddiffyn eich gwasanaethau iechyd lleol hanfodol. Ond fe wyddom y gall ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol fod hyd yn oed yn well. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn eich helpu i weld meddyg neu ddeintydd pan fydd arnoch angen – er enghraifft, drwy wneud yn siwr bod mwy o wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau pan fydd eu hangen. Byddwn hefyd yn helpu i greu mwy o ddeintyddion y GIG mewn ardaloedd lle mae’r galw yn uchel.

Mae ein pedwaredd prif bolisi yn ymwneud â Cysylltu Cymru. Rydym yn dibynnu ar drafnidiaeth a thechnoleg effeithiol er gyfer busnes a bywyd bob-dydd, ond mewn sawl rhan o Gymru mae angen i’r cysylltiadau yma fod yn llawer gwell. Bydd y Blaid yn arloesi gyda gwelliannau mawr mewn ffonau symudol, band eang a wifi gan gynnwys mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn cysylltu pob busnes a chartref i fand eang cyflym ac yn gwella mynediad i wifi er mwyn gwneud Cymru yn Genedl Ddiwifr. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu gwell system drafnidiaeth i gael Cymru i symud – gan gyflymu’r daith i’r gwaith a rhoi i chi ffyrdd cyflym, dibynadwy a fforddiadwy o deithio. Byddwn yn trydanu mwy o reilffyrdd ar draws Cymru a gwella ein gwasanaethau bysus. Bydd Cymru fwy cysylltiedig yn helpu ni i greu Cymru lwyddiannus.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Ebrill 26, 2011 11:30 am

OS ydy’r blaid am fod yn ‘uchelgeisiol’ ac eisiau ‘trawsnewid’ Cymru.

PAM, mae’r blaid yn fodlon fod yn is-bartner i Llafur ac nid i’r Ceidwadwyr?. PAM, os ma siawns i cael glymblaid enfys a Plaid fel uwch-bartner tydy rhai o aelodau ddim eisiau fod yn ran ohono?.

Un o prif gwendidau Cymru yw Llafur. Os oes siawn bychan o gael llywodraeth enfys. RHAID i ni gymeryd o. Oherwydd yn amlwg tydy 13 mlynedd o Llafur ddim wedi adfywio yr economi na addysg.

A dyna pam dwi’n poeni pleidleisio Plaid, un peth dwi DDIM eisiau ydy Llywodraeth Llafur arall.

§

Jones , Ebrill 26, 2011 11:32 am

….ac i Gymru fod yn ‘uchelgeisiol’ pa Blaid sydd wedi dweud NA i fwy o pwerau deddfu/trethi. Nid y Ceidwadwyr ond Llafur.

Dewch lan IWJ, clymwch hefo’r toriaid…. dwi’n siwr fysa nhwm yn gallu gwneud fwy o mess a mae Llafur wedi’i wneud!

§

Adam Jones , Ebrill 26, 2011 6:32 pm

Dwi’n deall dy bwynt Jones ond ma siwt gymaint o ddrwg deimlad yn erbyn y Torïaid dal i fodoli yn hen ardaloedd diwydiannol y gogledd orllewin a’r de orllewin – Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Arfon, Caerffili, Rhondda, Islwyn ardaloedd lle mae’r blaid wedi ennill siwt gymaint o dir yn ddiweddar a phe byddent yn clymbleidio â’r Torïaid gallwch anghofio am yr ardaloedd hyn byddai’n sarhad o’r fwyaf, nid yw pobl ar y cyfryw yn edrych ymlaen yn hytrach yn cofio yn ôl ac felly mae dyfroedd tymhestlog iawn o flaen Plaid Cymru. Yn bersonol cefnogaf clymblaid enfys ond eto dwi ddim yn gallu gweld sut weithith e, bydd e’n ffradach llwyr a gyda Llafur yn wrthblaid byddai hyn yn rhoi cynsail cadarn iddynt i frwydro nol ac yna ble fydd Plaid Cymru yn 2015? Mae rhaid edrych at bob cyfeiriad gan bwyso a mesur yn ofalus iawn.

§

Mathew , Ebrill 26, 2011 7:18 pm

Nid clymblaid enfys yw’r ateb. Yn wir, hoelen yn arch Plaid Cymru fydd honno.

AIL BLEIDLAIS WERDD AR 5 MAI!

§

Jones , Ebrill 26, 2011 9:15 pm

Enfys, yn fy marn i ydy’r opsiwn gorau OS caiff Plaid fwy o seddi na’r Ceidwadwyr. Bydd fydd Llafur yn wrthblaid cryf… ond tydy bod mewn Llywodraeth byth yn hawdd!.

Yr opsiynau eraill ydy:
- Cael Cymru’n Un v2.0 (ac yn amlwg o manifesto Llafur, ei agwedd i fwy o bwerau, ac o polau opiniwn) na fydd hwn yn syniad da i Plaid.

- bod yn y wrthblaid, ond os caiff y Ceidwadwyr fwy o seddi, ni fyddent hefo ‘arweinydd yr wrthblaid’.

Felly pam dwin meddwl mai nawr yw’r amser am glymblaid?.
- fydd tymor y Cynulliad yn ymestyn hyd at 5mlynedd- amser eithaf hir, i unrhyw Lywodraeth Cynulliad gwella yr economi.
- ni fydd LCO’s yn bwysig (felly ni fydd yna broblemau o ASau styfnig).
- yn ol y Manifestos mae’n debyg bod y Tori’s eisiau mwy o ddatganoli ac yn y maesydd trethi. A RHAID tanseilio mai dyma yw prif bwrpas Plaid Cymru (er mae hyn yn ddadl arall!). OS fysa yna Lywodraeth Enfys yna maen debyg gyda Llywodraeth tebyg yn San Steffan, caiff Cymru llawer mwy o bwerau. Ac i mi fel cefnogwr Plaid Cymru maen rywbeth hynod o bwysig i dyfodol ein cenedl.

- be neith Cymru’n Un v2.0? dadlau hefo San Steffan i etholiadau Llundain yn 2015. Wastio arian hefo pethau “am ddim”, cael 1,000 o PCSO’s (ffigwr wedi’i dynnu a nunlle), ac y problemau mae un yn gael wrth clymbleidio gyda Llafur (dim trafod GO IAWN, yn cabinet, nod clymblaid GO IAWN).

§

Hogyn o Rachub , Ebrill 27, 2011 11:15 am

Mae dwylo Plaid Cymru wedi’u rhwymo o ran dewisiadau ar ôl yr etholiad – gwrthblaid neu risgio rhwygo’r blaid yn ei hanner.

§

Neilyn , Ebrill 27, 2011 3:58 pm

Y blaenoriaethau yw buddianau Cymru, nid y pleidiau gwleidyddol fel y cyfryw. Onid dyna’r rheswn dros fodolaeth Plaid Cymru? Mae’n rhaid cael ffyniant yn yr economi er mwyn datblygu swyddi da i’r genhedlaeth nesaf o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg. Yn ogystal, wrth sgwrs, a datblygiadau cyfansoddiadol pellach. Felly, mae’n hanfodol edrych i’r dyfodol. Os yw’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn barod i “gyfaddawdu” er mwyn enill eu lle mewn llywodraeth enfys gyda’r Blaid a’r Rhyddfrydwyr yna gwell hynny os golygai bod y pwerau newydd sylfaenol fel system farnwrol yn dod i Gymru dros y pum mlynedd nesaf. Be fedrith y Blaid Lafur gynnig rwan?

§

Fon Gruffydd , Ebrill 27, 2011 5:40 pm

Mae’r Blaid wedi colli ei ffordd yn llwyr. Be ddigwyddodd i annibyniaeth? Pam nad ydy hynny’n flaenoriaeth? Rhaid bod arweinwyr Plaid yn ymwybodol o gynnydd yr SNP yn yr Alban. Mae’n bosibl bydd refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban o fewn ychydig o flynyddoedd. Ydy’r Blaid wedi llawn ystyried y goblygiadau i Gymru pe bai’r Alban yn ennill ei rhyddid? Ydyn nhw wedi meddwl am le Cymru mewn gwladwriaeth a fydd yn “Deyrnas Unedig Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon,” wedi’i dominyddu’n llwyr gan Loegr? Yn ol y drefn bresennol, sy’n anhebygol o newid cyn refferendwm yr Alban, mae gan ein Cynulliad ni lai o rym na chynulliad chwe sir Gogledd Iwerddon. Byddai senedd San Steffan heb yr Alban yn debycach byth i Senedd Lloegr ond gyda grym sylweddol drostom ni yng Nghymru ac yn fwy felly na thros Ogledd Iwerddon oherwydd y system “Cymru a Lloegr” bondigrybwyll. Rwan ydy’r amser i dderbyn yr her ac ymgyrchu dros annibyniaeth i’n gwlad.

§

Jones , Ebrill 27, 2011 7:21 pm

Cytuno bod Plaid wedi colli ei ffordd yn y degawd-ish dwytha. Mae nhw mwy fel Labour-lite.
Ddoe ar y “Leaders Debates” dylai bod IWJ yn drymio y ffaith- os fysa Cymru hefo rheolaeth trethi ayyb ni fysa gymaint o gynydd, neu dim gymaint o broblemau hefo’r banciau.

Er efallai na dim nawr yw’r amser i ymgyrchu dros annibyniaeth. Ond maen bwysig IAWN i gael o allan, i son am dan y fo ym mhob etholiad, os ddim dim ond Labour-lite yda ni.

Oherwydd hyn, fydd y Plaid hefo dewis anodd ar ol yr etholiad. Os mae’r Toris yn cynnig fwy o pwerau a pwerau trethi, a Llafur dim. RHAID i’r Blaid ymuno gydar Toris. Os mai plaid Cenedltholdeb ydy nhw. Os ddim, fydd yn rhaid i ni feddwl ‘be mae nhwn sefyll am’, ac fydd hynny yn cwestiwn anodd iawn i IWJ ateb. Dwi’n cytuno hefo’r Arglwydd mai ‘hunan lywodraeth’ oedd pwrpas P.Cymru; ond be dwi’n anghyntuno hefo ydy bod ni hefo hunan lywodraeth. System hynod o gyfin gymleth, heb bwerau trethi. Nid ydy ‘hunan lywodraeth’ wedi cael ei roi… eto.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.