Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Anfon pensiynwr i’r carchar tros brotest Radio Cymru

Mai 26, 2011 13:16, Diweddarwyd Mai 31, 2011 11:22


Llys Ynadon Dolgellau (Gwasanaeth y Llysoedd)
Mae pensiynwr wedi cael ei garcharu am wrthod talu dirwy a chostau llys tros brotest ddarlledu.

Fe benderfynodd Llys Ynadon Dolgellau anfon Geraint Jones o Drefor i garchar am ddeng niwrnod.

Mae yntau wedi dweud y bydd yn ymprydio trwy gydol ei amser dan glo.

‘Seisnigo’ Radio Cymru

Roedd wedi dweud cyn yr achos nad oedd eisiau i neb dalu’r ddirwy ar ei ran wrth iddo brotestio yn erbyn “Seisnigo” Radio Cymru ac o blaid ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gadw annibyniaeth S4C.

Geraint Jones, sy’n 69 oed, oedd y person cynta’ i fynd i’r carchar ar ran Cymdeithas yr Iaith yn ôl yn nechrau’r 60au.

Mae’n aelod o’r mudiad iaith Cylch yr Iaith ac wedi bod yn feirniad cyson o ddefnydd o Saesneg ar Radio Cymru.

Yn ôl Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd, mae’r Gymdeithas yn “hynod o falch fod Geraint Jones wedi gwrthwynebu’r newidiadau i S4C yn ei araith yn y Llys – newidiadau a thoriadau sydd yn peryglu dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Mai 26, 2011 3:56 pm

Chwarae teg iddo…..mae angen mwy o hyn…….

§

Gareth , Mai 26, 2011 5:38 pm

Ie wir, diolch am y Safiad.

§

Fon Gruffydd , Mai 26, 2011 9:43 pm

Diolch i Geraint Jones am ei safiad dewr ac urddasol dros yr iaith. Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Diwylliant (Seisnig a Saesneg) y DU, a ddylasai fod yn y llys heddiw.

§

Egwyddorion , Mai 27, 2011 9:43 am

Diolch yn fawr a pharch mawr i’r dyn am sefyll dros ei egwyddorion a gwneud ‘yr hyn sydd yn iawn i’r lleiafrif’. Y tristwch ydi ei bod hi bron yn amhosibl i unrhyw un sydd ddim o gefndir lleiafrifol wir amgyffred angerdd y Cymry Cymraeg dros ein hiaith a’n diwylliant. Gobeithio y gwnaiff safiad Geraint ddangos y ffordd i ymgyrchwyr eraill i sicrhau fod ein llais yn cael ei glywed ac yn parhau i gael ei glywed.

§

Idris , Mai 27, 2011 10:41 am

Yn drist iawn, mae cyfnod caled iawn o’n blaenau. Nid yn unig mae’n cyfrngau Cymraeg a Chymreig dan fygythiad difrifol, mae’r holl ddiwilliant poblogaidd a chelfyddydol sydd yn perthyn mor agos hefyd dan fygythiad. Mae’r BBC yng Nghymru ac S4C yn ddiddannedd, ac yn agored i ymosodiadau gan yr awdurdodau yn Llundain. Gobeithio fod safiad Geraint yn adlewyrchiad o deimladau ddigon cryf yma i frwydro’n galed, does neb arall am wneud drostom. Diolch Geraint.

§

Dafydd Parri , Mai 27, 2011 11:37 am

Dwi ddim yn gweld problem gyda Radio Cymru yn bersonnol. Protest ddibwrpas.

§

gaynor , Mai 27, 2011 12:25 pm

Dwi ddim yn meddwl mai J Hunt yw golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd oedd yn y swydd tro dwetha’ mi glywed

§

CGT , Mai 27, 2011 12:37 pm

Ni chredaf fod protest Geraint jones wedi ei anelu at unrhyw Sais na Tori. Mae’r gwyn am ddiffygion Radio Cymru o ran y Gymraeg yn un reit hen. Peidiwch a mynd i’r camgymeriad o gwmpasu ymgyrchoedd gwahanol .

§

Hedd Gwynfor , Mai 27, 2011 12:49 pm

CGT:

Yng ngeiriau Geraint Jones mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith:

“Roedd fy safiad gwreiddiol yn erbyn Seisnigrwydd Radio Cymru ond bellach daeth ymgyrch S4C y Gymdeithas yn naturiol ganolog i’m protest.”

§

cris , Mai 27, 2011 1:29 pm

Does bosib nad oes ffyrdd mwy cadarnhaol o weithredu dros y Gymraeg y dyddie ‘ma????

§

modlen , Mai 27, 2011 5:03 pm

@cris fatha be? ma pob llythyr a cwyn barchus yn cael ei hanwybyddu!

§

CGT , Mai 27, 2011 5:14 pm

Nid yw Sesisnigrwydd a diffyg sylwedd Radio Cymru unrhywbeth
i wneud gyda’r Toriaid . Drwy gyplysu ymgyrchoedd, mae’n haws i’r BBC wrthod trafod gwendidau. Yr hen wendid Cymraeg o ‘jobs for my boys/girls’ .

§

Mathew , Mai 30, 2011 8:25 am

Seisnigrwydd? Beth ma’r prat ‘ma ishe te? Siarad yn ddiddiwedd am gerdd dant a greatest hits partion llefaru ar hyd y blynyddoedd?

Carchar yw’r lle gore iddo fe.

§

Rhys Gethin , Mai 30, 2011 4:26 pm

Paid â siarad trwy dy din, Mathew. Os wyt ti’n meddwl mai cerdd dant a llefaru yw hanfod Cymreictod, yna efallai mai gennyt ti y mae’r broblem.

§

gog , Mai 30, 2011 5:25 pm

@Mathew Pam bo diwylliant Cymraeg wastad yn goro bod yn gerdd dant a steddfod? y bobl ddylsa fod yn jel ydir bobol syn trio deud bod y Gymraeg yn wbath hen ffashwn sy ddim digon da iw darlledu, a boni angan diwylliant sysnag in cynnal ni! Tin sad os tim meddwl na “greatest hits partion llefaru ar hyd y blynyddoedd” ydir unig beth sgen Cymru iw gynnig

§

Rhys Gethin , Mai 30, 2011 5:55 pm

@Mathew
Mewn ychydig eiriau, rwyt ti wedi llwyddo i gyfleu’r taeogrwydd sydd mor rhemp yng Nghymru. Mae etifeddiaeth Cymru’n llawer ehangach na cherdd dant ac adrodd, ac mae safiad Geraint yn rhywbeth i’w glodfori.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.