Hywel Williams, un o ASau Plaid Cymru
Fe fydd Plaid Cymru yn colli un o’u seddi yn San Steffan o ganlyniad i’r newid ffiniau cyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2010, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Dim ond tair sedd sydd gan y blaid ar hyn o bryd, ac fe fydd colli un yn ergyd i’w dylanwad yn San Steffan.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr golli pedair sedd, sef 28.6% o’u cynrychiolaeth yng Nghymru, a bydd y Blaid Lafur yn colli pum sedd, sef 19.2% o’u cyfanswm yn y wlad.

Fe fydd Comisiwn Ffiniau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi’r map newydd yn swyddogol ym mis Medi.

Ond mae grŵp ymchwil y Democratic Audit o Brifysgol Lerpwl, wedi seilio eu harolygon eu hunain ar ganllawiau’r ddeddfwriaeth a fydd yn torri nifer y seddi ar draws Prydain o 650 i 600, ac yng Nghymru o 40 i 30.

Uno rhannau o Arfon a Môn?

Mae disgwyl y bydd rhaid cyfuno rhan o seddi Arfon (Plaid Cymru) ac Ynys Môn (Llafur) wrth ehangu meintiau’r seddi i tua 70,000 yr un.

Ar draws Prydain, fe fydd y Ceidwadwyr yn colli 16 sedd (5.2% o’u cyfanswm), y Blaid Lafur yn colli 17 (6.6%), a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli 14 (25.6%).

Yn ôl papur newydd y Guardian mae’r ffigyrau’n debygol o arwain at wrthdaro o fewn y glymblaid wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol sylweddoli eu bod nhw’n wynebu colli chwarter eu seddi.

Dem Rhydd yn dioddef

Dywedodd Lewis Baston o Democratic Audit mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n dioddef fwyaf o ganlyniad i’r newidiadau.

“Mae eu hetholaethau nhw yn tueddu i fod yn ynysoedd o felyn mewn môr o las a coch,” meddai wrth y Guardian.

“Maen nhw hefyd yn dibynnu ar boblogrwydd yr Aelod Seneddol lleol ac mae eu mwyafrifoedd yn tueddu i fod yn llai.”