Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gwario £157,000 ar atgyweirio’r Senedd

Mehefin 27, 2011 09:20


Senedd Cymru
Mae mwy na £157,000 wedi ei wario ar atgyweirio adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ers iddo agor pum mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigyrau aeth i lawr y Ceidwadwyr yn dangos fod £25,521 wedi ei wario ar atgyweirio’r adeilad y llynedd, y mwyaf ers 2007/08.

Cafodd £19,000 ei wario ar waith trydanol, £25,000 ar ddrysau newydd, a £19,000 ar waith plymwr.

Mae £16,000 hefyd wedi ei wario ar ffenestri newydd, £10,000 ar oleuadau, £9,000 ar reiddiaduron a £8,000 ar gamerâu.

Costiodd y Senedd £67m i’w adeiladu a chafodd ei agor yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2006. Agorodd bron i bum mlynedd yn hwyr a chwe gwaith dros y gyllideb wreiddiol.

“Mae’r Senedd ballech yn adeilad eiconaidd ac mae Cymru gyfan yn cymryd balchder ynddo,” meddai llefarydd cyllidol yr wrthblaid, Nick Ramsay.

“Ond rydyn ni’n pryderu am faint o arian sy’n cael ei wario ar atgyweirio’r adeilad.

“Dim ond pump oed yw’r adeilad ac roedd disgwyl iddo barhau am 100 mlynedd. Bydd trethdalwyr yn pryderu fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar adeilad gostiodd cymaint yn y lle cyntaf.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dylan , Mehefin 27, 2011 9:12 pm

Tybed beth ydi’r ffigurau cyfatebol ar gyfer costau Senedd Prydain?

§

Rhys Wynne , Gorffennaf 13, 2011 3:04 pm

Tybed beth ydi’r ffigurau cyfatebol ar gyfer costau Senedd Prydain?

Wedi amrywio rhwng £2.5 a £10 miliwn y flwyddyn yn ystod y pum mlynedd diwetha, yn ol ateb i gwestiwn un AS!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.