Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion

Nifer gwylwyr S4C yn syrthio

Mehefin 29, 2011 16:09, Diweddarwyd am 16:11

Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
Syrthiodd nifer gwylwyr S4C unwaith eto yn ystod 2010.

Gotyngodd nifer y gwylwyr o 30,000 yn ystod y flwyddyn flaenorol i 28,000 yn ystod yr oriau brig y llynedd.

Cyhoeddodd y sianel ei hadroddiad blynyddol heddiw, gan gyfaddef fod y flwyddyn diwethaf wedi bod yn un “gythryblys”.

Dechreuodd trafferthion y sianel bron i flwyddyn yn ôl, ym mis Gorffennaf, pan adawodd y prif weithredwr Iona Jones.

Gadawodd y Cyfarwyddwr Comisiynu Rhian Gibson yn fuan wedyn ac yna Cadeirydd Awdyrdod S4C, John Walter Jones, ym mis Rhgafyr.

Mae S4C wedi penodi Huw Jones i olynu John Walter Jones yn y swydd honno ac wedi dechrau hysbysebu am olynydd llawn amser i Iona Jones yn gynharach yn y mis.

Mae’r dyfodol hefyd yn heriol i’r sianel wrth iddi wynebu toriadau o 25% a chael ei rhoi dan adain y BBC.

Disgrifiodd Huw Jones 2010 fel “blwyddyn gythryblus yn hanes S4C” ond mynnodd fod gobaith at y dyfodol.

Penodi Prif Weithredwr

“Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu,” meddai Huw Jones.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, mae gofyn i ni ddod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ynglŷn â manylion y bartneriaeth a’r dull ariannu newydd sydd i ddod i rym yn ystod 2013.

“Fe fyddwn hefyd yn bwrw iddi i benodi Prif Weithredwr parhaol a Chyfarwyddwr Cynnwys.

“Gan weithredu argymhellion Syr Jon Shortridge ynglŷn â natur a strwythur y berthynas rhwng yr Awdurdod a’i swyddogion, byddwn yn cymeradwyo strategaeth er mwyn darparu gwasanaeth cyfoes a deniadol mewn cyfnod o doriadau, ac yn ystyried pob dull posib o gwtogi ar wariant nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â chreu rhaglenni a chynnwys.

“Fe fyddwn mor agored ag y mae’n bosib i gorff sy’n delio â chytundebau masnachol i fod ynglŷn â rhesymeg ein penderfyniadau ac fe fyddwn am sicrhau fod barn pobl Cymru – ein gwylwyr – a’u cynrychiolwyr yn cael ei chlywed a’i deall gennym.

“Cefais fy mhenodi i wasanaethu yn y swydd hon am gyfnod o bedair blynedd. Pedair blynedd hefyd yw hyd y sicrwydd ariannol a roddwyd i ni yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol yn Hydref 2010.

“Mae dyfodol S4C y tu hwnt i hynny – ei hannibyniaeth a’i chyllido – yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad allanol sydd i ddigwydd cyn diwedd y cyfnod.

“Ein tasg felly yw sicrhau y bydd yr adroddiad hwnnw yn ddatganiad cadarnhaol am berfformiad y gwasanaeth, gwerthfawrogiad y cyhoedd ohono, y gwerth am arian a ddarperir ac am ei gyfraniad ehangach i fywyd y genedl.

“Dyma’r materion a fydd yn ganolbwynt fy sylw i ac aelodau eraill yr Awdurdod yn ystod y cyfnod sydd i ddod.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Llinos , Mehefin 29, 2011 5:00 pm

Mae barn pobol Cymru yn hollol glir. Dydyn nhw ddim yn hoffi’r arlwy sydd ar S4C ac mae nhw’n pleidleisio gyda’u bysedd. Fe roddwyd her i S4C gyda dyfodiad yr oes ddigidol i ddal ei thir ynerbyn yr holl sianeli ychwanegol oedd yn cyrraedd ein cartrefi. Ac er fod gan S4C fantais fawr o fod yr unig sianel i ddarlledu yn y Gymraeg mae hi bellach wedi colli’r frwydr a wedi colli’r gynulleidfa. Amser i lanhau y lechen.

§

C Davies , Mehefin 29, 2011 5:43 pm

Rhowch adloniant safonol ar S4C, a fydd pobl yn gwylio, rhowch rwtsh ar a fydd pobl yn newid sianel. Syml.

§

Fi , Mehefin 29, 2011 8:02 pm

Mae angen i S4C gynnig amrywiaeth ehangach o raglenni teledu. Roedd Porth Penwaig yn warthus ac yn sarhad i bobl Cymru – ydy S4C wir yn meddwl mai rhaglenni disylwedd felly mae pobl Cymru yn mwynhau?? Y Goets Fawr, Papur Bro am ‘rubbish’ llwyr – mae Shan Cothi yn mynd o dan fy nghroen i. Ar y llaw arall, roedd Alys yn wych. Mae Pobl y Cwm wedi dirwyio’n arw – rhaglen ar gyfer y teulu – nid mwyach mae arnai ofn. Deffrwch S4C cyn iddi fod yn rhy hwyr – mae arnai ofn nad ydych yn darparu yr hyn mae mwyafrif o bobl Cymru ei eisiau, ond yn hytrach y sych dduwiol, dosbarth canol a diflas.

§

Carl Morris , Mehefin 29, 2011 9:51 pm

Licio’r sylwadau Syniadau am y mater hwn.
http://syniadau–buildinganindependentwales.blogspot.com/2011/06/s4c-just-report-bad-news.html

§

Gwyliwr (ar y tŵr) , Mehefin 29, 2011 11:24 pm

Mae Llinos a C Davies uchod, a llawer un arall, yn tanbrisio’r her anferthol sy’n wynebu S4C o geisio denu pobl i wylio’r Sianel heb gyllideb ddigonol (hyd yn oed cyn y tori-adau). Nid mantais yw bod yr unig sianel Gymraeg, mae angen darparu rhaglenni sy’n plesio pawb, tasg amhosibl. Mae’r ffigurau yn syndod o uchel o ystyried nid yn unig hynny, ond hefyd y ffaith bod nifer y bobl sy’n rhugl eu Cymraeg ac sy’n dewis ei siarad hi bob dydd yn gostwng bob blwyddyn. Mae angen i ni wynebu’r gwirionedd yma a brwydro i atal y trai drwy weithio yn ein cymunedau i greu siaradwyr newydd ac i droi’r bobl 15-35 sy’n ‘gallu’ siarad Cymraeg yn rhai sydd eisiau ei siarad. Fel arall mae hi ar ben arnon ni.

§

Arsylwad , Mehefin 29, 2011 11:44 pm

@ C Davies

Beth, yn eich tyb chwi, ydi ystyr ‘adloniant safonol’? Wedi’r cyfan, gellid dadlau mai ‘rwtsh’ sydd fwyaf poblogaidd ar sianeli eraill… Mae o i gyd i’w wneud efo safbwynt y gwylwyr, a phwy yw’r gynulleidfa sy’n cael ei thargedu. Wedi’r cyfan, mae’n anodd cynnig rhywbeth at ddant pawb. Buaswn yn croesawu darllen eich sylwadau ar y fformwla cyfrinachol bondigrybwyll ‘syml’ yma am ‘adloniant safonol’ yr ydych i’w weld yn gwybod amdano.

§

Rhys Harris , Mehefin 30, 2011 8:36 am

Dwi’n meddwl bod S4C yn gwneud job go lew o dan yr amgylchiadau. Fel sydd wedi ei grybwyll eisoes, fel yr unig sianel Gymraeg, mae trio apelio at y gwylwyr i gyd yn anodd iawn. Hefyd, maent yn gorfod cynhyrchu rhaglenni ar gyllidebau bach ofnadwy. Er engraifft, clywais i bod un pennod o East Enders yn costio mwy na chyfres gyfan o Rownd a Rownd.
Mae angen i ni gyd stopio cecru ymysg ein gilydd a rhoi cefnogaeth positif i’r Sianel. Dyw e ddim yn berffaith o bell ffordd, a buaswn yn hoffi pe bai S4C yn holi fy marn ar yr arlwy.

§

Ffed Yp , Mehefin 30, 2011 9:23 am

Rhaglenni S4C yn warthus ers amser – dim rhyfedd fod y ffigyrau mor drychinebus. Gwrthododd y sianel rhyddhau cost cynhyrchu Pen Talar (simoedig iawn ei safon er gwaetha’r holl hunan-glod gan S4C!) – ac mi roedd Huw Jones yr un mor ddiflas/dirgel yn ei gyfweliad neithiwr ar deledu – yr un hen stori! Pwy ddiawl mae’r pobl hyn yn meddwl ydy nhw?? Ni sy’n talu am bron pob dim anywe!!!

§

Fi , Mehefin 30, 2011 9:43 am

Beth am wario ychydig o arian ar waith ymchwil i weld be mae pobl Cymru eisiau weld ar y teledu yn hytrach na chriw dosbarth canol diflas yn gwneud penderfyniadau yn eu swyddfeydd moethus?? Ymweld ag ysgolion a cholegau?

§

Rhys Gethin , Mehefin 30, 2011 10:01 am

Oes na rywun arall yn dymuno gweld mwy o stwff tebyg i raglen “Y Tywysogion” a gyflwynwyd gan Richard Wyn Jones rai blynyddoedd yn ôl? Mae’n rhaid fod rhaglenni o gyffelyb safon yn llawer rhatach i’w cynhyrchu na rwtsh fel Porthpenwaig, ac yn llawer pwysicach i’r genedl.

§

Fi , Mehefin 30, 2011 10:20 am

Amrywaieth sy’n bwysig dwi’n meddwl Rhys. Roedd fy ngwr wedi mwynhau’r rhaglen tywysogion (er ma RWJ yn gallu bod braidd yn ddwys!) Mae rhaglenni amaethyddol yn ddifyr a braf cael gweld cymeriadau Cefn Gwlad. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfres nesaf o Fferm Ffactor! Beth am gael rhaglenni ysgafn megis Bacha’i oma yn ôl (a pheidio cael Shan Cothi ac Ifan yn cyflwyno!!)

§

Richard Vale , Mehefin 30, 2011 11:13 am

O’i chymhau â sianeli cyhoeddus mewn gwledydd bach eraill (sydd â llawer mwy o bobl) yn Ewrop, mae arlwy S4C yn hynod o dda. Yn Sweden, Denmarc a’r Swistir almaeneg, er enghraifft, ceir fel arfer dim ond newyddion, newyddion lleol, rhaglenni “cylchgrawn” ofnadwy, rhyw hen raglen o’r BBC megis “Who do you think you are” gydag is-deitlau, ac wedyn rhagor o newyddion. Ac dyna i gyd.

Mae Carl Morris yn cyfeirio at sylwadau Syniadau sy wedi dadansoddi adroddiad blynyddol S4C, ac wele, dyna stori bositif am gynulleidfa S4C!

§

cris , Mehefin 30, 2011 11:55 am

Mae’n naturiol na fydd pob rhaglen ar S4C yn plesio pawb. Ry’n ni’r Cymry yn naif iawn os y’n ni’n meddwl y gall S4C gymharu’n ffafriol drwy’r amser gyda’r sianeli dirifedi eraill sydd ar gael i ni erbyn hyn.
Mae cyllideb S4C yn bitw iawn iawn o’i gymharu a sianeli eraill Prydain. Ar y cyfan mae S4C yn gneud jobyn da iawn.
Swn i ddim yn licio gweld y llanast fyddai’n codi tase rhai o’r rheiny sy wastad yn beirniadu mewn fforymau trafod wrth y llyw.

§

Prys ap Sion , Mehefin 30, 2011 12:39 pm

Pa brofiad/tystiolaeth sydd gen ti cris i ddweud fod y pobol ar y fformau trafod ddim yn llwydianus yn ei gwaith ac gyda’r gallu i cymeryd y llyw?

§

Hedd Gwynfor , Mehefin 30, 2011 1:04 pm

Am unwaith dwi’n cytuno’n gyda Cris! Ond mae yna le i wella wrth gwrs.

Mae trawsgrifiad o araith Menna Machreth yn Rali Na i’r Toriadau, Ie i S4C newydd yng Nghaerdydd y llynedd yn werth ei ddarllen – http://cymdeithas.org/2010/10/02/araith_menna_machreth_rali_na_ir_toriadau_ie_i_s4c_newydd.html

Gallwch hefyd ddarllen pamffled yn rhoi hanes ymgyrch sefydlu S4C yn y lle cyntaf yma – “S4C Pwy Dalodd Amdani?” http://cymdeithas.org/2011/01/18/s4c_pwy_dalodd_amdani_hanes_ymgyrch_ddarlledu_cymdeithas_yr_iaith.html

§

Martin , Mehefin 30, 2011 4:49 pm

Diolch Carl Morris am osod y cyswllt at flog Syniadau. Erbyn hyn dan ni’n disgwyl gogwydd gwrth-S4C gan y BBC wrth adrodd y newyddion; ond pam fod Golwg360 yn gwneud yr un peth? Yn ol ‘Syniadau’, dyw adroddiad blynyddol S4C ddim yn ddrwg i gyd o bell ffordd, felly rhaid gofyn a wnaeth gohebydd Golwg360 ddarllen adroddiad S4C cyn ail-pobi pennawd y BBC?

§

cris , Mehefin 30, 2011 10:14 pm

Dim ond barnu o’r sylwadau naif ar y fforymau y galla i Prys.

§

Ffed Yp , Gorffennaf 1, 2011 10:32 am

Yn hollol Prys! Mae’r ‘Awdurdod’ (sic) yn bifahio fel bwrdd cwmni preifat ond yn gwastraffu arian cyhoeddus, ac yn cael eu talu!! – am fethu a rheoli unben pen-mawr (JWJ) a prif-weithredwr (IJ) roedd yn gwrthod darparu gwydodaeth. Shwd gall un o’r rhain aros yn eu swyddi?Hyd nes fod gwir clirio’r ddesg wedi digwydd, a bod S4C yn bihafio fel corff cyhoedus cyfrifol, trylowy yna ni wneith barn pobl Cymru (Cymraeg a di-Gymraeg) newid o weld S4C fel clwb preifat, cudd – a dychrynllyd o ddrud!!

§

Rhys Wynne , Gorffennaf 4, 2011 10:16 am

Fel Martin, dw i’n ddiolgar i Carl am y ddolen at gofnod ar flog Syniadau. Yn y blwch sylwadau (a sori am y Saesneg), mae un yn nodi..

I see tweets labelled #S4Cfail, destructive negative comment (can’t something be “poor” rather than “gwarth” or “sarhad” – shameful, digusting, degrading etc), usually with no hint of what could be done to improve things… Rarely do I see someone with a positive “they’ve tried something new that didn’t work – I’d like to see…” kind of attitude.

Tra mae yna bethau wirioneddol warthus, a nid jyst ‘sal’, yn ymddangos ar y sianel, mae’n wir nad ydan ni’n rhoi digon o glod i’r rhagleni da sy’n ymddangos ar y sianel – pethau fel Yr Ynys, Y Daith, Gwlad Beirdd, Ar Lafar….OK, yr un matho ragelnni yw’r rhain, ac at fy nant innau, ond mae’n nhw’n rai o safon sydd wedi plesio pobl.

§

Lavinia , Gorffennaf 6, 2011 1:47 am

Pedair awr y noson o raglenni safonol, da sydd ishe. Naill ai hynny neu ddylai’r sianel fynd ar y we yn unig.

Un peth arall sy’n fy ngwylltio i yw’r ffyliaid ‘ma sy’n gwrthod cael rhaglenni am Gymru drwy gyfrwng y Saesneg ar y sianel. Ychydig dros flwyddyn yn ol, roedd Deal or No Deal a Countdown arni. Ond rhaglenni SAESNEG am GYMRU yn ymddangos ar yr UN SIANEL! PANIG!

Iaith mwyafrifol Cymru yn cydfyw â’r Gymraeg yn yr un fframwaith diwylliannol?! DOES. NOT. COMPUTE. ERROR. ERROR.

*bom niwclear yn ffrwydro yn Llanisien*

Yn anffodus, dyma’r agwedd. Os felly, mae’r sianel, os nad yr iaith ei hun yn HAEDDU marw.

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 6, 2011 1:19 pm

Rhys Wynne

Mae’n dda fod eraill yn gweld fod arbofiad Huw Jones (5 Super-Indie) wedi cael pob siwans i llwyddo ond nawr mae’n rhaid stopio y “delusion” o “Sefydlogrwydd” y buzz word/syniad mae’r 5 cwmni wedi bod yn trio gwthio lawr gwddf S4C ers misoedd.

Ac I help addysgu y naïf dyma eglurhad o tack TAC

Cafodd “Is-bwyllgor” TAC (syn made up o penaithiaid y 5 Cwmni) o leia 3 cyfarfod gyda S4C i trio fforsio y syniad dylid rhan fwyaf o’r arian aros gyda nhw (token sum i’r cwmnioedd bach) a basically second chance dros y tair mlynedd nesa i achub eu croen.

A dydd Llun ‘roedd cyfarfod blynyddol TAC yn Aberystwyth lle ‘roedd cyfle olaf i bygythio swyddogion S4C gan obeithio fuasai y person wnaeth ddweud wrthynt yng Naghaernarfon yn 2005 i ffurfio 5 cwmni (Huw Jones) sefyll i fyny a cefnogi eu syniad dylid y “status quo” parhau (Na nid y band roc!).

Ar ol gwrando ar Post Prynhawn mae’n amlwg i mi pa gwersyll mae pabell Iestyn Garlick yn sefyll ! Gwersyll y cwmnioedd mawr!

Yn ol Iestyn – Nid pa mor dda ydi’r syniad sy’n bwysig, pan mae cwmni bach a cwmni mawr yn cystadlu.

Be cafodd ni oedd y spiel, na cwmni mawr sydd am gael y comisiwn oherwydd fod nhw yn gallu gwneud syniad tebyg ( nodwch na nid syniad gwell dywedodd o!). Lle mae’r tystiolaeth Iestyn fod rhaglenni cwmni bach gyda “Overheads” bach yn costio mwy na rhaglen cwmni mawr gyda “Overheads” Mawr a Management Ffi Mawr!

Ar y diwedd mae’n sylweddoli ei fod wedi tyllu twll a trio awgrymu ei fod wedi bod yn dweud na’r syniad “sy’n frenin”!

Yn amlwg mae Iestyn wedi arfer just darllen sgript y cwmnioedd mawr a ddim yn dda yn ad-libio !

A’r sgript “Sefydlogrwydd” oedd

Gadewch i’r cwmnioedd mawr cario ymlaen i gael yr un faint o aria nag o’r blaen ( oherwydd mae nhw mor Top Heavy mae nhw angen y cash i talu am y ceir, swyddfeydd a cyflogau y managers heb anghofio cadw y tai haf yn y Gorllewin.

“Pediwch a gwenud i ni cystadlu go iawn drwy tenders agored. Dim ond tenders lle mae un cwmni ar y rhestr, da ni isho – fel ‘roedd Iona a Rhian yn gadel i ni gweud!” ydi subtext y geiriau isod!

Gallwch clywed ar wefan Radio Cymru on dan Post Prynhawn
http://www.bbc.co.uk/programmes/b012b2kh

Post Prynhawn – Radio Cymru 04.07.2011
Craig Dygan yn Aberystwyth

18:15munud
“Yn fras ‘dyw TAC ddim yn hapus o bell ffordd gyda’r broses o lunio strategaeth newydd ar gyfer y sianel.

Mae nhw yn teimlo nad ydi S4C wedi ymgynhori digon gyda’r cwmniau annibynol wrth lunio’r strategaeth honno. A hefyd yn arbennig tydi nhw ddim yn hoff iawn o’r broses tendro neu o leia ddim yn hoff iwan bod broses tendro yn mynd i gychwyn ar yr adeg yma.

Nid dyma ydi’r anser iawn i tendro medda nhw .

Er eu bod nhw yn teimlo mewn egwyddor mae trwy gystadlu yn y fath yma o fodd, trwy tendro fellu, yw’r fordd orau o sicrhau cystadleuath teg.

Mae nhw’n teimlo fod y gost o cyhwyn o’r newydd i gwmni falle sydd am wneud raglen tydi nhw ddim wedi gwneud o’r blaen, mwy na lai yn amhosib ar hyn o bryd.

19:00munud
Dyma beth oedd gan Iestyn Garlick cadeirydd TAC i ddweud wrthai ynglyn a’r broses tendro.

“Yn sicir mae’r dymuniad yna i fod yn deg.

Ond gwrandewch

Os gen chi cwmni bach efo un syniad a cwmni mawr syn dod efo syniad sydd rhywbeth tebyg .Yna mae’r cwmni mawr yn tebygol o’i gael o, achos mae’n gallu gwneud yn rhatach.

Fellu, fel dwi’n dweud, yn y pen draw, y syniad sydd yn ..sy’n frenin.”

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 6, 2011 2:57 pm

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.