Guto Bebb
Mae Aelod Seneddol wedi dweud wrth Golwg360 heddiw bod undebau’n gwneud “camgymeriad” drwy fynd ar streic dros bensiynau ac mae “streic wleidyddol yw, nid egwyddorol”.

Mae miloedd o weithiwyr sifil, athrawon a gweithwyr eraill ledled Prydain wedi dechrau streic 24 awr. Mae’r streic wedi ei threfnu mewn protest yn erbyn newidiadau dadleuol i’w cynlluniau pensiwn.

Fe ddywedodd Guto Bebb AS, Aberconwy wrth Golwg360 fod newidiadau’r Llywodraeth yn golygu bod y “baich yn fwy cyfartal rhwng trethdalwyr a’r sector gyhoeddus”.

Dywedodd nad oes “cyfiawnhad” dros y streicio sy’n ymylu ar fod yn “anfoesol”.

Roedd yn mynnu bod “patrwm cyllido’r Llywodraeth” yn ei gwneud hi’n sefyllfa  “decach” i drethdalwyr tlotach. “Streic wleidyddol ydi hon – ddim streic egwyddorol  i ddiogelu’r tlotaf yn y gymdeithas.

“Dyw undebau ddim byd mwy na grwpiau pwyso i’r cyfforddus – heb boeni am ddiogelu’r tlawd…mae Undebau streic chwarelwyr a Bethesda wedi hen ddiflannu bellach,” ychwanegodd y Tori.

‘Cadarn’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran undeb ATL bod yr ymateb yn “gadarn” yng Nghymru.

Fe ddywedodd Philip Dixon o’r Undeb wrth Golwg360 bod mwy o ysgolion wedi’u heffeithio gan y streic yng Nghymru nac yn Lloegr a bod “tua hanner yr ysgolion wedi cau”.

“Dydyn ni heb glywed am unrhyw aelodau ATL sydd ddim ar streic,” meddai cyn dweud eu bod wedi cael “llawer o gefnogaeth gan undeb UCAC a NAHT.

“Rydan ni eisiau gweld trafodaeth real ac ystyrlon gan San Steffan ar bensiynau athrawon,” ychwanegodd.

Mae Undeb ATL yn dadlau bod Llywodraeth San Steffan “yn foesol gyfrifol am athrawon a darlithwyr yn mynd ar streic yng Nghymru a Lloegr”.