Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Galw am newidiadau i’r system gynllunio

Gorffennaf 2, 2011 16:10


Eglwys farmor Bodelwyddan - adeilad amlyca'r pentref ar yr A55 (o wefan Wikipedia)
Mae symudiad ar droed i ffurfio cynghrair o wahanol grwpiau i ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol i’r system gynllunio yng Nghymru.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg wrth i dros 100 o brotestwyr ymgynnull y tu allan i neuadd y sir yn Rhuthun y bore yma i brotestio yn erbyn cynllun i godi dros 2,000 o dai ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych.

Roedd y brotest, a gafodd ei threfnu ar y cyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Grŵp Gweithredu Bodelwyddan, yn erbyn y cynllun a fyddai’n treblu maint y pentref ar yr A55.

“Fe fu’r brotest yn llwyddiannus iawn, a’r gobaith bellach yw y bydd modd ffurfio cynghrair o grwpiau ledled Cymru i alw am newidiadau sylweddol i’r system gynllunio,” meddai llefarydd ar dan Cymdeithas yr Iaith.

“Roedd y siaradwyr i gyd yn tanlinellu’r angen am i grwpiau ddod at ei gilydd i fynnu newidiadau o’r fath.

“Ein dadl ni yw fod y datblygiad arfaethedig ym Modelwyddan yn enghraifft o broblem ehangach gyda’r system gynllunio, sydd yn rhoi buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol.”

Nod cynghrair o’r fath fyddai mynnu bod polisi cynllunio’n cael ei seilio ar anghenion lleol, yn hytrach nag ar dueddiadau mewnfudo fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Yn y brotest, cyhuddodd Llyr Huws Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Gogledd Cymru lywodraeth y Cynulliad o geisio gorfodi mwy a mwy o dai ar gynghorau lleol ac o geisio hybu stadau enfawr ar hyd yr A55.

 “Digon yw digon – dan ni ddim am dderbyn mwy,” meddai. “Mae angen i ni uno’r gwahanol ymgyrchoedd lleol mewn un ymgyrch gref fydd yn datgan barn clir i wleidyddion a gweision suful y Llywodraeth.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Lloyd Jones , Gorffennaf 2, 2011 6:23 pm

Os hoffech wybod sut bobol sy’n mynd i adeiladu’r tai, rhowch Barwood Land Bodelwyddan yn google ac mi welwch mai cwmni o ‘venture capitalists’ enfawr o America (yn perthyn i WalMart)sydd wrthi’n llyncu tir Cymru. Syllwch ar y tai bach del, yr eglwys enwog, y bryniau prydferth yn y cefndir. Ydi, mae’r cyfan yn ‘done deal’ ond peidiwch a dweud wrth y Cynullliad na’r BBC. Dydy nhw ddim isio gwybod…

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.