Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pethau’n poethi ar faes yr Eisteddfod

Gorffennaf 4, 2011 15:10


Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards sy’n edrych ymlaen at ddechrau’r Eisteddfod Genedlaethol…

Wythnos arall, a’r ffôns hyd yn oed yn brysurach yr wythnos hon na’r wythnos ddiwethaf – a phan dwi’n  mynd adref ar ddiwedd y dydd, dwi’n dal i glywed y ffôn yn canu yn fy nghlustiau!  Ond, mae’n braf clywed cynifer yn ffonio i archebu tocynnau o bob math – o’r cynllun dau am un ar gyfer trigolion ardal Wrecsam i’r cyngherddau nos a’r gwyliau ymylol.

Mae’r  tywydd braf – a lluniau’r Pafiliwn wedi’i godi yn Wrecsam yn gwneud i bobol droi eu golygon tua’r Eisteddfod gan ddechrau edrych ymlaen go iawn am y Brifwyl.  Mae’r amserlenni a’r crynodebau i gyd wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan erbyn hyn hefyd, felly mae hyn yn gyfle i bobl ddechrau ar y gwaith o ddewis a dethol beth yn union maen nhw am ei wneud yn ystod yr wythnos -  lle maen nhw am fynd a beth maen nhw am ei weld.

Mae’r tywydd braf hefyd yn berffaith ar gyfer y criw sydd wrthi’n brysur ar y Maes – mae’n llawer brafiach gweithio yn yr haul a’r adeiladau’n cael eu codi’n llawer cyflymach.  Byddwn yn ôl ar y Maes yfory am y tro cyntaf ers rhai dyddiau ac fe fyddwn yn siwr o weld tipyn o newid ers i ni fod yno ganol yr wythnnos ddiwethaf.

Mae bob amser yn gyffrous troi’r gornel i mewn i’r maes parcio bach wrth ymyl swyddfa’r maes yn ystod y cyfnod hwn a gweld yr adeiladau i gyd yn codi fel madarch – a’r Maes yn edrych yn gwbl wahanol o diwrnod i ddiwrnod.

Rydan ni wedi dechrau mynd drwy’r capsiynau rydym wedi’u derbyn fel rhan o gystadleuaeth capsiynau Maes C – dipyn o hwyl a chyfle i ennill tocynnau ar gyfer gweithgareddau’r wythnos.  Mae’r deunyddiau hyrwyddo ychydig yn wahanol eleni, gan ddefnyddio rhai o luniau archif yr Eisteddfod.  Os ydych chi eisiau tro ar y gystadleuaeth, ewch i’r wefan a chlicio ar Maes C – 15 Gorffennaf yw’r dyddiad cau – a gobeithio y byddwn yn derbyn capsiynau sy’n ddigon da i’w defnyddio fel posteri a phanelau yn y Ganolfan Groeso a Maes C yn ystod yr wythnos.

Mae’r rhain i gyd yn clymu i mewn gyda’r dathliadau 150 eleni a chyda’r prosiect atgofion yn arbennig.  Eto, mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ni am hwn a gallwch rannu’ch atgofion drwy’r we hefyd.

Byddaf yn sôn mwy am hwn cyn bo hir ond yn y cyfamser, dyna’r ffôn a gwell i minnau fynd i’w ateb!

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.