Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Anfodlonrwydd’ â gweledigaeth S4C

Gorffennaf 7, 2011 14:51


Mae aelodau sector gynhyrchu annibynnol Cymru wedi mynegi eu “hanfodlonrwydd a’u pryder” ynglŷn â gweledigaeth S4C o 2012 ymlaen.

Roedd dros hanner cant o aelodau TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn bresennol mewn cyfarfod yn Llety’r Parc, Aberystwyth, ddydd Llun.

Yno ar ran S4C oedd y Prif Weithredwr dros dro’r sianel, Arwel Ellis Owen, a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni dros dro, Geraint Rowlands, yn ogystal â Chadeirydd newydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Yn ôl adroddiad yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon roedd y cyfarfod yn un “stormus”, a’r berthynas rhwng S4C a’r cynhyrchwyr wedi dirywio ymhellach.

Yn ôl TAC, roedd barn yr aelodaeth yn “unfrydol” wrth iddynt “fynegi eu siom a’u rhwystredigaeth ynglŷn â’r  broses oedd wedi arwain at greu’r ‘weledigaeth newydd’”.

Nid oedd aelodau TAC  yn teimlo bod “trafodaeth ystyrlon wedi digwydd” yn ystod y cyfarfod.

Roedden nhw hefyd yn teimlo bod “barn y sector gynhyrchu wedi cael ei hanwybyddu yn llwyr yn y broses”.

Wythnos yn ôl datgelodd y sianel eu cynlluniau ar gyfer 2012-15, yn sgil y toriadau mawr i gyllideb y sianel.

Cyhoeddodd S4C y bydd eu cyllideb ar gyfer gwneud rhaglenni yn cwympo i isafswm o £65m y flwyddyn yn y cyfnod hwnnw, o’i gymharu â chyllideb rhaglenni o £83m yn 2010 a £78.7m yn 2011.

Roedd eu cynlluniau at y dyfodol yn cynnwys rhagor o raglenni i blant a diflaniad Wedi 3, yn ogystal â mabwysiadu ffordd newydd o gomisiynu fydd yn cynnwys tair ‘ffenestr’ bob blwyddyn, ochr-yn-ochr â phroses gomisiynu ddi-dor yn ôl yr angen.

‘Anfodlon’

“Mae TAC yn anfodlon iawn bod S4C yn creu darlun ein bod wedi cytuno i’r weledigaeth newydd a bod llais a mewnbwn wedi digwydd i’r weledigaeth newydd gan y sector annibynnol – tydi hynny jest ddim yn wir,”  meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick.

“Mae aelodau TAC wedi cynnig dogfennau manwl yn amlinellu’r ffyrdd y gallwn wynebu’r argyfwng gyda’n gilydd i warchod y sianel gyda chyllideb lai ond anwybyddwyd y cynigion, a chafwyd ddim ymateb gan arweinwyr y sianel,” meddai cyn dweud hefyd bod TAC wedi “gofyn droeon am sefydlogrwydd”.

“Tydi gorfodi proses o dendro ar gwmnïau yn creu dim byd ond ansefydlogrwydd, pwysau ariannol, pwysau ar adnoddau a phwysau ar staff, a hynny i gyd mewn cyfnod lle y dylen ni fod yn ceisio arbed arian, nid ei wario yn ofer”.

Dywedodd Ron Jones, Tinopolis ei fod yn teimlo “nad yw’r maes chwarae yn un wastad bellach gan nad oes dim gwaith i’w weld wedi ei wneud ar gydraddoli’r cyllidebau na’r prisiau”.

Ymateb S4C

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth gylchgrawn Golwg fod y drafodaeth yn agored a diflewyn ar dafod”.

“Mae S4C wedi ymgynghori yn helaeth ac yn drwyadl â dros 40 o gwmnïau cynhyrchu, gyda TAC a PACT ac wedi gwneud gwaith ymchwil manwl gyda’n gwylwyr er mwyn cynllunio amserlen fydd yn canolbwyntio’r gwariant ar yr adegau hynny pan mae’r rhan fwyaf o bobol yn ein gwylio, ac i gynnig rhaglenni a fydd yn denu gwylwyr newydd yn ogystal ag apelio at ein cynulleidfa draddodiadol.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Prys ap Sion , Gorffennaf 7, 2011 5:43 pm

roedd y cyfarfod yn un “stormus”, a’r berthynas rhwng S4C a’r cynhyrchwyr wedi dirywio ymhellach.

Na – dim ond y perthynas rhwng y 5 mawr ac S4C sydd wedi dirywio ( mae na 35 cwmni arall gyda barn gwahanol)

Yn ôl TAC, roedd barn yr aelodaeth yn “unfrydol” wrth iddynt “fynegi eu siom a’u rhwystredigaeth ynglŷn â’r broses oedd wedi arwain at greu’r ‘weledigaeth newydd’”.

Na – Dim ond barn 5 penaeth y cwmnioedd mawr oedd un “unfrydol” yn y cyfarfod

Nid oedd aelodau TAC yn teimlo bod “trafodaeth ystyrlon wedi digwydd” yn ystod y cyfarfod.

Na – Dim ond Iestyn a peneithiaid y cwmnioedd mawr sy’n dweud hyn

Roedden nhw hefyd yn teimlo bod “barn y sector gynhyrchu wedi cael ei hanwybyddu yn llwyr yn y broses”.

Am y tro olaf Na! Os neith Golwg boddran siard gyda cwmnioedd bach gall eu darllenwyr/gwylwyr S4C decharau clywed y cefnogaeth sydd yna i beth mae S4C nawr yn gweud i ddod a ni allan o’r “5 super-indie experiment”!

§

Anodd Credu , Gorffennaf 7, 2011 8:29 pm

Clywch Clywch!! Mae’r Bwmerangs et al wedi byw’n fras iawn ar arian S4C, dim ishe newid gormod fan hyn, thenciw! Mae ishe newid popeth o’r gwaelod lan – nawr!!

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 9, 2011 7:51 am

Mae dau Sylw dydd Iau wedi diflanu!

Mae’n amlwg fod Is-bwyllgor TAC clust goygyddion Golwg! gan nad ydi Golwg yn hapus i rhoi llais i wrthwynebiad i safbwynt Iestyn Garlick a’r 5 Cath Tew

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 9, 2011 11:22 am

Diolch i’r nefoedd – Mae na wyrth wedi digwydd!

Mae’r dau sylw nol ar y safle

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 9, 2011 11:34 am

Dwi’n awgrymu rwan i bawb sy’n rhoi sylw ar eitemau Golwg i cymeryd copi o’r sgrin!

I wneud hyn

gwthiwch “Print Scr”
(sydd rhan a amlaf i’r chwith o bwttwm “F12″ ar top eich keyboard)

wedyn agor “Word”

unwaith mae scrin gwyn o’ch blaen gwthiwch botwn dde eych “mouse” a clicio ar “Paste”

Wedyn fydd copi o beth bynnag sydd i weld ar y sgrin wedi safio!

opsiwn arall ydi “highlightio” yr text ar wefan Golwg a gwneud “copy & paste”

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 9, 2011 1:01 pm

Yn ôl TAC, roedd barn yr aelodaeth yn “unfrydol” wrth iddynt “fynegi eu siom a’u rhwystredigaeth ynglŷn â’r broses oedd wedi arwain at greu’r ‘weledigaeth newydd’”.

Dwi wedi cael hwn heddiw. e-bost aeth i bawb yn TAC, sy’n dangos yn fy marn, fod gan Iestyn Garlick un stori i’r wasg ac stori arall i aelodaeth TAC!

A sgwn i beth ydi’r stori oddifewn “is-bwyllgor” TAC?

From: Iestyn Garlick
Date: 3 July 2011 13:56:39 BST
To: Dewi John Gregory

Subject: Re: TAC

Diolch am dy sylwadau, gan dy fod yn teimlo mor gryf dwi’n rhyfeddu nad wyt ti’n medru dod i’r cyfarfod yfory, lle aelod o’r Cyngor ydy cefnogi penderfyniadau y Cyngor yr wyt yn rhan ohoni, mae’n amlwg nad wyt yn teimlo y gelli wneud hynny rhagor, trueni felly nad wyt ti, unwaith eto, yn medru dod i gyfarfod i fynegi dy farn yn gyhoeddus.

Tydy dadleuon unrhyw is-bwyllgor, ac mae yna nifer os wyt ti’n cofio, ddim yn arwynebol o bell ffordd. Cafodd yr is- bwyllgor yr wyt ti’n sôn amdani ei ffurfio er mwyn ceisio gwarchod ein diwidiant, neu fethaist ti’r cyfarfod hwnnw hefyd?

Dwi’n gwrthwynebu yn llwyr dy honiad sarhaus fod unrhyw bwyllgor TAC yn cefnogi/ cynrychioli unrhywbeth ond buddiannau’r Sector gyfan.

Mi fyddi yn falch o glywed y byddaf yn cyhoeddi etholiad yfory, dwi’n mawr obeithio y byddi yn rhoi dy enw gerbron, ac y cei dy ethol i’r Cyngor newydd, ac o bosib cei fod yn Gadeirydd.

Felly i grynhoi, bydd etholiad yn cael ei gyhoeddi yfory, ac mae’r “is-bwyllgor” wedi gwneud ei waith eisioes, yn y bôn bob dim wyt ti’n gofyn amdano.

Ar y ffôn lôn,Iestyn.

On 3 Jul 2011, at 11:56, “Dewi John Gregory” wrote:

Annwyl Iestyn

Mae’n ddrwg gyda fi na allaf fynychu’r cyfarfod pwysig yn Aberystwyth yfory. Ond hoffwn gynnig pwnc trafod ar gyfer yr Agenda, sef Yr Isbwyllgor.

Ymunais i a Bwrdd TAC er mwyn dadlau dros chwarae teg a marchnad agored i gynhyrchwyr Cymraeg. Ond ers sefydlu’r isbwyllgor, rwy’n teimlo bod TAC wedi ffrwyno’r dyhead yma. Mae camau Gweledigaeth 2012 tuag at farchnad fwy agored i’w croesawu. Ond fe gymrwyd y camau hyn er gwaethaf TAC a’r Isbwyllgor, ddim o’i herwydd.

Fel mae pawb yn gwybod, dros y blynyddoedd mae S4C wedi cefnogi tyfiant llond llaw o gwmnïoedd dethol – cartel, meddai rhai. Mae hyn wedi mygu twf ac uchelgais pawb arall ac fe ddigwyddodd hyn ar draul safon y rhaglenni, creadigrwydd y sector a theyrngarwch y gynulleidfa.

Swyddogaeth TAC yw cynrychioli buddiannau’r sector yn ei chyfanrwydd. Ond dadl arwynebol yr isbwyllgor yw y dylid gwarantu canran o gyllideb gomisiynnu S4C ar gyfer cwmnioedd bach a newydd; tra’n gwarchod y rhan helaethaf iddyn nhw eu hunain. Rwy’n gwerthfawrogi bod y cwmnioedd hyn yn brwydro dros eu dyfodol eu hunain – a chwarae teg iddyn nhw am wneud. Ond nid yn enw TAC y dylai hyn ddigwydd.

Yn fy nhyb i, ffurfiwyd yr is-bwyllgor yn unswydd er mwyn gwarchod ‘sefydlogrwydd’ y cwmnioedd mawr yn unig, a hynny wrth reswm ar draul y cwmnioedd eraill. Esgeuluswyd cyfarfodydd y Cyngor, a gynhaliwyd yn rhy anghyson ac anaml i lywio polisiau’r isbwyllgor. Di-ystyrodd yr isbwyllgor sylwadau yn erbyn y sefydlogrwydd bondigrybwyll. Thalwyd dim sylw i’r Cyngor o gwbl, a dweud y gwir. Ac mae Cyfansoddiad TAC wedi cael ei amharchu’n llwyr.

Rhaid wrth gorff sy’n cynrychioli’r diwydiant i gyd. Oherwydd hyn, rwy’n annog TAC i ddiddymu’r isbwyllgor ar unwaith a chyhoeddi etholiadau i’r Cyngor.

Yn gywir

Dewi Gregory

P.S. English Summary: This message calls on TAC to abolish the sub-committee and call Council elections as a matter of urgency.

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 11, 2011 3:56 pm

Surprsie Surprise!

Mae’n amleg fod gan Iestyn Garlick ffrindiau ymysg golygyddion Golwg. Mae copi o’r ebost cafodd ei yrru (nid at just aelodau TAC) gan Iestyn Garlick, wedi cael ei tynnu ffwrdd fel sylw. Ac nes i gymeryd copi i brofi ni!

Pam?

Wel yn fy marn i ‘roedd yn profi nad oedd Golwg wedi gwneud digon o waith ymchwil cyn rhyddhau stori ac nad oedd geiriau Iestyn yn hollol wir

Dwi’n agrymu fod pawb yn gwrando ar rhaglen radio cymru Wythnos Gwilym Owen aeth allan a 13:15 heddw . Pumtheg munud i fewn gallwch clywed Iestyn yn cwyno fod yr hufen y 5 cath tew wedi troi’n sur.

http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/console/b012ghck

Dydd Iau dwetha nes i ddweud

” Os neith Golwg boddran siard gyda cwmnioedd bach gall eu darllenwyr/gwylwyr S4C decharau clywed y cefnogaeth sydd yna i beth mae S4C nawr yn gweud”.

Diolch byth wnaeth ymchwilyr Gwilym Owen yn y BBC gweld pa mor un ochrog ‘roedd eitem Golwg ac gallwch glywed fod na dau ochor i bob stori

Shame on you Golwg!

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 12, 2011 8:03 am

Awgrymu fod darllenwyr Golwg yn gwrando ar rhaglen Wythnos Gwilym Owen ar Radio Cymru ddoe am 13:15 a gwenud ac ystyried pwy mae Cadeirydd TAC yn blaenoriaethu

§

Prys ap Sion Hughes , Gorffennaf 12, 2011 10:11 am

“Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.”

Annwyl “Anodd Credu”

Mae’n drist i weld fod Golwg l wedi cael ei dylanwadu gan TAC syn amlwg isho darganfod pwy sy’n gwrthwynebu eu safbwynt – mae’n edrych o’r geiriau uwchben fod Golwg yn keen i cadw fewn gyda’r cyfryngis, a ddim i weld ishio “pro
tect their sources” – so meddyliwch dwywaith cyn siarad gyda jurnos nhw!

§

Owain Schiavone , Gorffennaf 12, 2011 8:28 pm

Ymateb i Prys ap Sion Hughes.

Nid yw TAC nac unrhyw un arall yn dylanwadu ar ohebiaeth Golwg360.com. Mae’r canllawiau sylwadau newydd yn gwbl amherthnasol i’r stori yma ac wedi bod yn cael eu cynllunio ers peth amser o ganlyniad i boblogrwydd yr adnodd sylwadau.

Os yw sylwadau’n diflannu ar Golwg360 mae hynny am fod o leiaf dau bersonwedi clicio ‘nodi camddefnydd’. Rydym yn ymdrechu i wirio unrhyw sylwadau sy’n cael eu gyrru nôl cyn gynted â phosib.

Os oes gan unrhyw un fater i’w godi ynglŷn â’r gwasanaeth neu’r adnodd sylwadau yna mae croeso i chi gysylltu â ni – manylion ar waelod tudalennau Golwg360.com.

Owain Schiavone
Prif Weithredwr Golwg360

§

cris , Gorffennaf 13, 2011 11:30 am

Mae cuddio tu ol i ffugenw yn llwfr ac yn anfoesol. Os oes gan unrhyw un rywbeth sy’n werth ei ddweud, dylai fod ganddo/i yr asgwrn cefn i ddweud hynny ar goedd – yn ei h’enw ei hun.

§

Prys ap Sion Hughes , Gorffennaf 13, 2011 12:37 pm

Cris

1af – ti heb rhoi dy enw llawn felly..

2ail – Sut ti’n meddwl gall S4C gwenud rhaglen fel Byd ar Bedwar a perswadio pobol da i exposio pobol drwg mewn busnes, llywodraeth ayyb os ti’n mynnu fod nhw yn cael ei enwi?

§

Prys ap Sion Hughes , Gorffennaf 13, 2011 12:44 pm

Owain Schiavone

Diolch am egluro cyd-dygwiddiad ynglyn a’r canllawiau newydd yn dod i fy sylw .

A dwi’n deall fod chi’n gorfod checio os ydi sylw yn enllibus ac cadw oddi ar y tudalen tan bod chi’n hapus fod yn iawn i pasio ymalen ar y wefan.

A diolch am egluro y sefyllfa gyda ‘nodi camddefnydd’ helpful iawn

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.