Un o flogwyr mwyaf toreithiog y rhithfro Gymraeg yw’r unig ymgeisydd i gofrestru i gael arwain yr ymgyrch ‘Na’ yn y refferendwm ar ragor o ddatganoli.

Echddoe cyhoeddodd mudiad Gwir Gymru na fydden nhw’n gwneud cais am statws swyddogol a’r £70,000 o arian fyddai’n dod â hynny.

Dywedodd Alwyn ap Huw Humphreys, sy’n ysgrifennu dan yr enw Hen Rech Flin, ei fod wedi cael gwybod gan y Comisiwn Etholiadol mai ef yw’r unig un i wneud cais i arwain yr ymgyrch ‘Na’.

Ychwanegodd ei fod yn credu i’r gwrthwyneb i Gwir Gymru – gan feddwl bod angen i’r Cynulliad gael mwy o bwerau nag yr oedden nhw’n ei cynnig ar hyn o bryd.

‘Dim gobaith mul’

Cyfaddefodd Alwyn ap Huw ar ei flog Hen Rech Flin y byddai’n “cachu brics” pe bai ei ymgais tafod yn y boch yn cael ei gymeradwyo.

Ond holodd pam bod y cyfryngau yn dal i drin Gwir Gymru fel yr ymgyrch Na swyddogol, gan mai ef oedd yr unig ymgyrch oedd wedi ei gydnabod gan y Comisiwn Etholiadol.

“Hyd y gwneir penderfyniad, fy het i ydy’r unig un yn y cylch. Dyna wirionedd y sefyllfa gyfredol, leicio fo neu beidio!,” medd ar ei flog.

“Pam felly bod Rachel Banner wedi ei gwahodd i gynrychioli yr Ymgyrch Na ar Dragon’s Eye neithiwr, yn hytrach na fi ?

“Mae’r BBC yn cydnabod bod ei hymgyrch hi wedi jibio allan ac yn gwybod bod fy ymgyrch i yn parhau o dan ystyriaeth. Rwy’n cydnabod nad oes gennyf siawns mul mewn Grand National o gael fy newis yn arweinydd yr ymgyrch, ond hyd groesi’r llinell-derfyn fi yw’r unig ful ar ôl yn y ras Na!

“Y Comisiwn Etholiadol, nid y BBC, sydd i bennu llwyddiant fy ymgais, ond mae’n ymddangos i mi bod y Gorfforaeth wedi rhagfarnu penderfyniad cyfreithiol statudol y Comisiwn, cyn i’r Comisiwn cael ennyd i ddyfarnu’n deg!

“Ydi’r BBC yn torri ei reol ddiduedd trwy anwybyddu fy ymgais i ac yn parhau i roi sylw i’r sawl sydd wedi tynnu allan cyn y glwyd gyntaf?

“Cwestiwn llawer mwy difrifol, a ydy’r Gorfforaeth yn ceisio dylanwadu ar ganlyniad refferendwm trwy danseilio ymgyrch sydd wedi ei dderbyn fel un sydd o dan ddwys dilys ystyriaeth y Comisiwn Etholiadol ar hyn o bryd?”