Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Ofnau am fewnfudo i Sir Gaerfyrddin

Gorffennaf 8, 2011 12:37


Safle i'r gorllewin o Gaerfyrddin, lle mae bwriad i godi tai.
 
Mae pryderon bod cynllun i godi miloedd o dai yn Sir Gaerfyrddin yn mynd i arwain at Seisnigo’r ardal sydd gyda’r nifer uchaf o siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru.

Ond mae’r cyngor sir yn bendant bod angen codi 11,200 o anheddau ychwanegol erbyn 2016.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny nid oes galw am y tai newydd hyn, am nad oes unrhyw gynnydd  naturiol ym mhoblogaeth y sir.

Bydd rhagor o dai yn cael eu llenwi gan bobol ddŵad meddai.

“Mae’r ratio geni/marw yn 0% yma,” meddai cyn ychwanegu bod hynny yn neges “glir ac amlwg”.

“Mae’n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd hyn i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Gâr,” ychwanegodd y Cynghorydd Tref.

Ond mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn rhagweld cynnydd yn y boblogaeth a mwy yn dewis byw ar eu pen eu hunain, a dyma yw eu sail dros fod eisiau caniatau codi mwy o dai.

Daw’r ffrae yn sgil protest yn Rhuthun ddydd Sadwrn diwetha’ am gynlluniau i godi miloedd o dai yn y gogledd, gydag ymgyrchwyr a gwleidyddion yn rhybuddio mai tai i bobol o’r tu allan fydden nhw.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn grediniol fod angen cynllunio i godi’r tai yma.

“Mae’n hollbwysig bod gynnon ni drefn sy’n cael ei harwain gan gynllunio er mwyn gosod y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau,” meddai llefarydd.

Amau amseru’r ymgynghoriad

Yn ôl Alun Lenny mae ymgynghoriad Cyngor Sir Gaerfyrddin ar y cynllun tai dadleuol yn “ymgais sinigaidd a hollol fwriadol” i “sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl yn gwrthwynebu’r cynllun” oherwydd ei fod yn digwydd adeg gwyliau’r Haf.

Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerffydin ddechrau’r cyfnod ymgynghorol i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y 6ed o Orffennaf. Y cynllun hwn fydd yn amlinellu lle dylid codi tai yn y sir o 2013 ymlaen. Mae’n canolbwyntio ar Gaerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Cross Hands.

Mae’r cynllun yn cynnwys defnyddio tua 320 erw o dir amaethyddol er mwyn adeiladu 1,200 o dai newydd. Mae’r safle ar gaeau gwyrdd i’r gorllewin o’r dre, ar y llethrau rhwng Parc Dewi Sant a ffordd ddeuol yr A48, ar hyd glannau Nant Tawelan.

Bydd y cyfnod ymgynghorol yn dod i ben Awst 19. Yn y cyfamser, bydd arddangosfeydd lleol yn cael eu cynnal mewn tua 10 lle ar draws y sir a chyfle i’r cyhoedd roi sylwadau a barn ar  y cynllun cyn Awst 19. 

 “Dw i’n credu fod amseriad yr ymgynghoriad a’r dyddiad cau derbyn sylwadau canol y gwyliau Haf yn ymgais sinigaidd, hollol fwriadol gan y Cyngor Sir i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl yn gwrthwynebu’r cynllun,” meddai’r cynghorydd tref Alun Lenny wrth Golwg360 gan ddweud mai dyma fydd y “penderfyniad pwysicaf i ddyfodol Sir Gâr”.

“Mae gan hwn y potensial i gael effaith ddifrifol iawn ar yr iaith Gymraeg,” meddai cyn mynd ati i son am y cynllun iaith newydd tair blynedd y mae’r Cyngor wedi’i sefydlu eleni.

“Maen nhw’n ymfalchïo mewn ateb y ffon yn ddwyieithog a chael arwyddion Cymraeg. Ond, yn hybu polisïau cynllunio sy’n bygwth holl ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw mewn sir sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Dw i’n annog pobl Caerfyrddin i fynd i’r cyfarfodydd cyhoeddus  lleol ac i wneud yn siŵr bod y Cyngor yn cael gwybod eu barn yn  glir,” meddai’r cynghorydd  gan son am yr amseru fel “ymylu ar fod yn wrth-ddemocrataidd.

 “Os bydd y math yma o ddatblygiad yn parhau, bydd dim Cymry werth son amdani yma erbyn 2030, dim Cymry fel rydan ni’n ei nabod hi”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Lavinia , Gorffennaf 8, 2011 3:25 pm

Wrth gwrs, dylwn ni gyd wrando ar farn cytbwys, call a di-duedd Mr Lenny.

§

Fon Gruffydd , Gorffennaf 8, 2011 4:24 pm

Brad.

§

Adam Jones` , Gorffennaf 8, 2011 6:23 pm

Dwi di dweud hwn sawl gwaith o’r blaen, Y cyngor sir yw bwgan yr iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, mae’u polisi iaith yn chwerthinllyd ac yn docenistaidd, mae gwefan nhw’n siambls gyda defnydd pitw iawn o’r Gymraeg, mae’i swyddogion i gyd bron yn uniaith Saesneg. Nid ydynt yn gwthio’r Gymraeg yn yr ysgolion na chwaith yn monitro dilyniant ieithyddol. Cyngor di-Gymraeg sydd gennym o aelodau llafur ac annibynnol yn lladd ar yr iaith ar bob cyfle posib. Rhywbeth ychwanegol fel rhyw degan bach yw’r Gymraeg i’r cyngor ond i’w defnyddio bryd mae’n siwtio nhw. Nid ydynt yn gweld y Gymraeg fel iaith cyfartal a normal, ac os na ellir gwneud hyn yn y fro Gymraeg mae arnaf ofn bydd y Gymraeg yn marw yn y pen draw os na allwn wfftio’r agwedd ffiaidd yma sydd ganddynt.

§

Neilyn , Gorffennaf 8, 2011 6:54 pm

O ystyried y ffaith mai iaith swyddogol yng Nhymru yw’r Gymraeg erbyn rwan, ac mai polisi Cyngor Sir Gaerfyrddin yw trin Y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, rwan yw’r amser perffaith i’r Cyngor gyhoeddi i’r byd a’r betws y bydd rhaid i bob un o drigolin y Sir wybod y ddwy iaith fel ei gilydd erbyn 2016.

Ers datganoli mae’n gyfnod newydd yn hanes ein gwlad, ac nid oes angen bod yn lwfr nac yn israddol o ran uchelgais na disgwyliadau chwaith. Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni yn llwyr, ond i ni fynnu gwell a disgwyl mwy oddiwrth ein hunain a phawb a fyn byw yn ein mysg. Asgwrn cefn yw’r nod.

Mae unrhyw gyhoeddiad i’r gwrthwyneb yn annerbyniol, ac yn groes i ddeddfau Cymru. Gwae nhw felly os methant yn ei cyfrifoldebau i’r wlad a’r genedl.

§

alun lewis , Gorffennaf 9, 2011 12:37 pm

ble ma pawb wedi bod, i fi wedi bod yn son am hyn ers amser, mae’r cyngor sir wedi bod yn boddi pentrefi cymaraeg ers amser a stadau newydd o dai. ma pentref penygroes wedi mynd o bentref cymraeg i un saesneg mewn llai na 10 blynedd. dos na ddim ffyn ieithyddol agor, mae’r wlad wedi cael ei seisnigo ar ardaloedd diwydiannol. mae tref rhydaman mwy fel rhan o cockney land y dyddiau yma, ac mae bron yn amhosib i gael gwasaneth gymraeg yn unrhyw siop yn cross hands neu rhydaman. mae’r cyngor sir yn cyflogi pobl di gymraeg i weithio i nhw yn ogystal a mudiadau eraill. tra bod rhai yn ffidlan a becso a deddf iaith, mae’r ysgolion wedi troi yn ysgolion saesneg neu categori b.
nid yw y cynulliad wedi gwneud byger all, aelodau cynulliad, cynhorwyr plaid cymru, na cymdeithas yr iaith. mae’r pobl hyn yn byw mewn bybl, ac yn credu tra bo nhw yn siarad cymraeg, bod pawb arall yn. ac bydd y diawl mwya, sef prif weithredwr y sir yn cario mlaen a’i bolisi saesnigo heb unrhyw wrthwynediad.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.