Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Wedi 7 wedi mynd

Gorffennaf 8, 2011 13:15, Diweddarwyd Hydref 6, 2011 10:40


Daw Wedi 7 yn fyw bob nos o Lanelli.
Mae Wedi 7 wedi ymuno gyda’i chwaer raglen Wedi 3 yn y dystbin darlledu.

Cwmni Tinopolis  sy’n gyfrifol am wneud y ddwy raglen, gyda Wedi 3 am dri y p’nawn bob dydd o’r wythnos ac yn para awr, ac Wedi 7 wedyn am saith ac yn para hanner awr.

Hyd yn oed os bydd Tinopolis yn ennill y cytundeb newydd i wneud rhaglen gylchgrawn nosweithiol ar S4C y flwyddyn nesa’, ni fydd hi’n cael ei galw’n Wedi 7.

Daw’r brand Wedi 7 a Wedi 3 i ben eleni a bydd S4C yn gofyn am gynigion ddiwedd y mis ar gyfer cynhyrchu rhaglen gylchgrawn newydd sbon y flwyddyn nesa’.

Gyda swyddfeydd yn Llanelli a Chaernarfon, mae Wedi 7 a Wedi 3 yn cael eu cyflwyno gan sawl wyneb cyfarwydd gan gynnwys Angharad Mair, Gerallt Pennant, John Hardy, Siân Thomas, Elinor Jones a’r sêr ifanc Meinir Gwilym ac Aneirin Karadog.

Cofiwch y llyfrau

O lwyfan seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn neithiwr, lle’r oedd Wedi 7 wedi bod yn darlledu’n fyw, roedd Angharad Mair yn dweud fod angen i S4C barhau i roi sylw i lenyddiaeth Cymru.

“Roedd hi’n fraint a phleser i ni gael rhoi sylw i’r llyfrau ar rhestr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar Wedi 3 a Wedi 7,” meddai Angharad Mair.

“Dim ond gobeithio y bydd pa bynnag raglenni newydd ddaw yn lle Wedi 7 a Wedi 3 hefyd yn cael y rhyddid i roi sylw i lyfrau Cymraeg.

“Mae’n bwysig fod S4C yn sylweddoli fod Wedi 7 wedi helpu i hybu marchnad lyfrau a cherddoriaeth a sefydliadau ag elusennau yng Nghymru. Mae’n hollbwysig fod hyn yn parhau.”

Bydd y cytundeb ar gyfer gwneud y rhaglen gylchgrawn newydd yn cael ei ddyfarnu yn yr Hydref.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Catrin , Gorffennaf 8, 2011 1:48 pm

Nia Thomas? Cyflwynwraig y Post Cyntaf yw hi. Sian THomas sy’n cyflwyno Wedi 7

§

Irfon , Gorffennaf 8, 2011 1:52 pm

gwd blydi ridans i’r ddau

§

John Dymond , Gorffennaf 8, 2011 2:29 pm

Mae wedi7 yn cyflenwi llawer o wybodaeth defnyddi. Mae’n bwysig I barhau gyda’r un fath o raglen.

§

Catrin a Ioan , Gorffennaf 8, 2011 4:38 pm

O leia mae Wedi 3 a Wedi 7 yn siarad hefo pobl go iawn, yn eu cymunedau, ac yn darlledu straeon nad ydi’r BBC yn eu cynnwys.Mwy o raglen Newyddion Cymru na Newyddion 7.30pm sy’n aml yn gyfieithiaidau sal o straeon Saesneg neu’n hen straeon sydd eisoes wedi bos ar Post Prynhawn – a hyd yn oed weithiau, Post Cyntaf!

§

alun lewis , Gorffennaf 8, 2011 6:38 pm

ers mynd o abertawe, a mynd yn ‘up market’, mae’r rhaglen hyn wedi colli ei ffordd. ‘roedd nifer o fobl yn ardal abertawe yn arfer gwylio y rhaglen, serch bod ddim llawer o gymraeg gan nifer o nhw. ‘roedd y rhaglen yn arfer bod yn werinol, ac ar yr un lefel ar gwyliwr. mae wedi saith wedi mynd yn fwy crachach a dim ond luvies y byd cymraeg sydd arno, ac yn hollol amnerthnasol i rhan fwyaf o siaradwyr cymraeg. ond mae rhaid gweud bod wedi 3 yn iawn am yr amser o’r dydd.

§

jonathan evans , Gorffennaf 8, 2011 11:10 pm

wedi siomi yn fawr iawn gyda s4c. efallai pan fydd staff s4c allan o waith, newn nhw sylweddoli pa mor bwysig yw wedi 3. rhag eich cywilydd s4c

§

Gwilym Prydderch , Gorffennaf 9, 2011 11:37 am

Cyfle arall i S4C symud pob ddiawl o bob dim i’w swigan fach hunan-fodlon nhw yng Nghaerdydd. Does ryfedd bod San Steffan am roi’r farwol i’r sianel.

§

alun lewis , Gorffennaf 9, 2011 3:42 pm

angharad mair yw rhan fawr o’r broblem.

§

alun lewis , Gorffennaf 9, 2011 3:44 pm

mae’r lyfis wedi lladd ein sianel

§

Prys ap Sion , Gorffennaf 9, 2011 5:09 pm

Na di nhw heb llad y siael!

Mae nhw wedi sugno’r gwaed o hi fel bod yn dim byd on “skin & bone” drwy gwneud yn siwr fod eu pocedi nhw yn llawn cyn talu’r Cymru creadigol.

Ond o be dwi wedi clywed dros y dyddiau diwethaf mae’r pobol sydd wedi ymuno S4C ers Iona Jones gadael wedi gweld/deall y 5 pla sydd wedi bod yn ymosod arni ac wedi galw am injection newydd o gwaed gan y cynhyrchwyr bach.

§

Jones , Gorffennaf 10, 2011 9:36 pm

Mae “nhw” ia y cyfryngis, lyfis- be bynnag da chi’n ei galw nhw WEDI sugno gwaed o’r sianel – fe fysan ddiddorol iawn cael gweld % o be mae arian Comisiynu S4C yn cael ddefnyddio i, i gymharu a’r 90au. Wni- helpu rhoi double-glazing i un neu ddau o “cewri ein sianel”.

§

Gwyn, Cwm Taf , Gorffennaf 15, 2011 10:23 am

Bring back “Heno”!!

§

gaynor jones , Gorffennaf 17, 2011 8:56 pm

Symud o Abertawe i Lanelli wedi achosi Wedi 7 i fod yn rhaglen fwy crachaidd? Dyna ichi resymegu doeth. Ar ba sail y daethoch chi i’r casgliad hyn? Pa theori cymdeithasegol sydd wedi peru hyn tybed? Ar y llaw arall bydde llawer yn honni bod Wedi 7 yn dymio lawr. Yn bersonol does dim didddordeb gen i yn straeon o’r West End, ond mae lot o drigolion Cymru yn mynhau straeon felly. Y gwir yw allwch chi ddim plesio pawb drwy’r amser, ond mae modd ichi blesio pawb peth o’r amser a dwi’n credu bod rhaglenni Wedi7 a Wedi 3 yn llwyddo i wneud hyn. Maent hefyd wedi adlewyrchu, ac yn dal i adlewyrchu digwyddiadau/ straeon/ a chymeriadau led led Cymru yn feunyddiol ac nid ar chwarae bach mae cyflawni hyn. Pwynt arall – oes modd dadlau yn synhwyrol a defnyddio resymeg a synnwyr cyffredin ar y gwefannau Cymreig yma gan beidio lladd ar bobl yn bersonol a siarad dwli di sail

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.