Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Beth yw pwynt y Teulu Brenhinol?

Gorffennaf 26, 2011 10:08, Diweddarwyd am 10:11


William a Kate - yn arafu'r economi

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r Teulu Brenhinol o fudd ynteu yn fwrn i Gymru…

Un ddadl sydd wedi ei hyrwyddo gan gefnogwyr y Teulu Brenhinol erioed yw eu bod nhw’n hwb i economi Prydain, am eu bod nhw’n dod a thwristiaid o bob cwr o’r byd i’n hynysoedd ni.

Mae sylwadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y bore ma yn gwrth-ddweud hynny i ryw raddau. Mae’n debyg fod y Briodas Frenhinol, ar ben ffactorau eraill gan gynnwys y tsunami yn Japan, wedi tynnu tua 0.5% o dwf economaidd y wlad. A hynny yn ystod cyfnod hollbwysig i dwf economaidd Prydain.

Daw hynny wedi’r holl awgrymiadau cyn y briodas y byddai yn rhoi hwb o tua £2 biliwn i’r economi. O le daeth y ffigwr yna dwn i ddim – swyddfa’r wasg Clarenece House mae’n siŵr.

Ar ben yr ergyd economaidd rhaid ystyried i ba ran o’r wlad y mae unrhyw dwristiaid, ac felly unrhyw fudd economaidd, yn mynd – a’r ateb amlwg yw i Lundain, ble mae’r Teulu Brenhinol yn trigo.

Gellid dadlau mai’r aelod diwethaf o’r Teulu Brenhinol i roi unrhyw fath o hwb i economi Cymru oedd Edward I, a gyflwynodd sawl castell i’r genedl a fyddai o fudd wrth ddenu twristiaid 600 mlynedd yn ddiweddarach.

Beth ddylai Cymru ei wneud am hyn felly? Mewn ffordd mae agwedd llugoer Cymru at y Teulu Brenhinol yn golygu ein bod ni’n cael y gwaethaf o’r ddau fyd.

Dydyn ni ddim yn barod i’w cofleidio nhw a chymryd mantais lawn o’r ffaith mai Tywysog Cymru yw Charles, a bod William a Kate wedi penderfynu ymgartrefu ar Ynys Môn, er mwyn hybu enw da Cymru yn fyd-eang.

Ond mae yna ddigon o bobol yn eu hoffi nhw fel na fyddai yn bosib cael eu gwared nhw.

Ac rydyn ni dal yn gweld eisiau eu cynnwys nhw mewn ambell i seremoni arbennig – e.e. agoriad y Senedd – fel teulu yn tynnu’n hen lestri porslen o’r seld ar achlysur arbennig.

Ond drwy beidio cael eu gwared nhw rhaid i ni barhau i dalu amdanyn nhw, wrth gwrs.

Efallai mai’r agwedd gorau fyddai i’w trin nhw fel unrhyw adnodd naturiol arall – eu hyrwyddo nhw am eu bod nhw’n denu twristiaid, ond peidio â dangos unrhyw ddiddordeb ynddyn nhw ein hunain.

Mae’r agwedd yna wedi bod o fudd i bobol Caernarfon erioed. Dyw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth erioed wedi bod y tu hwnt i borth eu castell byd-enwog, ond dyna’r unig reswm y byddai unrhyw dwristiaid yn dewis mynd yno.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


@rhysw1 , Gorffennaf 26, 2011 10:23 am

Mae ymchwil gan y mudiad Republic yn ddiweddar yn honni bod y ffigyrau swyddogol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglyn a chostau’r teulu brenhinol yn llawer is na’r gwir gost. Hefyd, yn ystod y briodas frenhinol eleni, aeth y BBC (gan gynnwys Radio Cymjru) dros ben llestri braidd ynglyn gyda eu alrwy o’r digwyddiad, gan lywio, yn fy marn i, gwir awch y cyhoedd am y peth.

Dw i’n cael yr argraff bod pobl PR y teulu brenhinol yn chwarae y ‘long-game’ gyda William drwy ei leoli yng Nghymru fel petai nhw’n gosod trefniadau hir dymor ar gyfer ei arwisgo’n Dywysog Cymru. Gobeithio bydd gwrthwynebiad swnllyd i hyn o fewn ac o du allan i fudiadau a sefydliadau cenedlaetholgar.

§

Guto , Gorffennaf 26, 2011 11:31 am

Mae pwynt y gohebydd yn un da, ond ddaru Edward I ddim ‘cyflwyno cestyll i’r genedl’ – eu defnyddio i orthrymu Cymru wnaeth o, a chreu system apartheid sydd wedi gadael creithiau hyd heddiw. Da o beth ein bod ni wedi’u ‘meddiannu’ nhw bellach, ond mae’n bwysicach fyth rwan i ni lacio gafael y Nashional Tryst a’u tebyg ar ein trysorau eraill.

§

Delyth Ioan , Gorffennaf 26, 2011 11:56 am

Wrth gwrs bod yn Teulu Brenhinol yn dod a hwb economaidd i’r wlad – ydych chi’n meddwl am eiliad y byddai’r holl Americanwyr yn dod i’n gwlad heblaw am y Frenhiniaeth a’i hanes. Diffyg amwr arall yw mai ystadegau ariannol sydd yn cael eu cyflwyno yma; beth am yr holl ymdeimlad o ‘ffactor da’, mwynhad cymunedol a dod a gwen i gymdeithas sydd wedi hen alaru ar newyddion drwg — fedrwch chi ddim mesur hynna. Byddwn i beth bynnag yn barod ianw i gynyddu fy nhrethi i’r Teulu Brenhinol sy’n sefyll dros ein gwlad, ein cyfundrefn a’n cymdeitahs yn hytrach na gwario’r arian ar y droniaid mileining sy’n hedfan uwch fy mhen.

§

Ben Evans , Gorffennaf 26, 2011 1:30 pm

Colled arna ti Delyth Ioan. Y teulu frenhinol yw’r cyntaf i gefnogi’r droniaid sy’n hedfan uwch dy ben! Mae nhw bob amser yn barod i gyfiawnhau rhyfel. Rhai ohonynt yn barod i helpu gwerthu arfau hyd yn oed! Wyt ti wir yn meddwl fod teimlad o ‘ffactor da’ pan fod y bobl yma’n cymryd arian oddi wrth bob cornel o Gymru tra bod cost bwyd yn mynd i fynny a tra bod llwyth o fobl yn ddi-waith ac yn colli gwaith. Mae’r ‘Crown Estate’ yn cymryd arian oddi arnom am y Mor hyd yn oed! Duke of Beaufort wedyn yn cymryd £300,000 oddi wrth Gyngor Abertawe (a oedd mewn dyled o rhyw 13 miliwn) am greu bont dros SA1 oherwydd cyfreithiau ffiwdal sy’n mynd nol canrifoedd.
Dihunwch lan bobl Cymru er mwyn y nefoedd.

§

Delyth Ioan , Gorffennaf 26, 2011 2:30 pm

Mi wnaf gefnogi y Teulu Brenhinol am beth ydynt – a fyddai’n well genny’ gael Arlywydd – na fyddai siwr iawn. gwell genny weld Teulu Brenhinol sy’n dal at eu hegwyddorion na gweld Cymry sy’n mainipiwleiddio’r sefyllfa er eu budd eu hunain. Fe’m ganwyd yn Brydeinwr, dyna sydd ar fy mhasport ac ymfalchiaf yn fy hanes a’m treftadaeth. Ac os cai – holed dyn ef ei hyn cyn son bod yna golled ar neb arall!

§

Lavinia , Gorffennaf 26, 2011 2:48 pm

TYFWCH LAN GOLWG360. NID SWYDDFA WASG PLAID CYMRU YDYCH CHI!

§

Adam Jones` , Gorffennaf 26, 2011 3:03 pm

Delyth Ioan yn gymeriad ffug a chrëwyd gan golwg i sbarduno dadl ;) nefoedd wen, erthygl da :)

§

Caradog , Gorffennaf 26, 2011 3:25 pm

@Lavinia- pam bo chdin cymryd yn ganiataol nar unig bobol syn erbyn y frenhiniaeth ydi welsh nash’s? chdi sy angan tyfy fyny boi.

A dydi americanwyr ddim yn dod yma just o achos y teulu brenhinol. Manwn dod yma achos bogena ni acen ddoniol, manwn meddwl bo gena nhw gyndeidia Gwyddelig/Cymraeg/Albaneg/Saesneg a manw isho gweld yr hanes sy gena ni. Pwyslais ar y gair HANES. Brenhinoedd sydd wedi marw, cestyll gwag ayb. Does na ddim llawar ohonyn nhw yn dod yma just i weld y teulu brenhinol sy dal yn fyw, neu mond i Lundain fysa nhwn mynd de. Ma na fwy i hanes prydain na just riw un teulu breintiedig

§

Delyth Ioan , Gorffennaf 26, 2011 3:58 pm

Nac ydy wir – dydy Delyth Ioan ddim yn gymeriad ffug wedi ei sefydlu gan Golwg. Mae’n gymeriad sydd wedi byw ers dros 55 o flynyddoedd yng Ngwynedd ac wedi dysgu nifer fawr o ddisgyblion fel Athrawes Hanes. Ar y foment mae’n mwynhau ymchwilio ar gyfer ei doethuriaeth i gadw’r meddwl yn effro ar ol ymddeol. Does yna ddim yn ffug ynddi.

Ac er nad ydw i’n gwbl gytun â Lavinia – mae ganddi bwynt!

§

Ben Evans , Gorffennaf 26, 2011 5:45 pm

Athrawes Hanes! Duw a’n helpo ni! Mae’n amlwg fod hanes Owain Glyndwr a Llywelyn wedi mynd ar goll yn rhywle te! A’r ffaith fod y teulu brenhinol a’i gwreiddiau yn yr Almaen a nid Cymru.

§

Delyth Ioan , Gorffennaf 26, 2011 7:53 pm

Ben Evans yn hollol gywir a’i ffeithiau – mae yna waed Ffrengig hefyd. Ac fe fedrwn i draethu am Frut y Tywysogion a Llys Ifor Hael, ac Owain Glyndwr a Llywelyn ap Gruffudd hefyd. Dydy pawb sydd heb fod yn arddel yn un agweddau at y Teulu Brenhinol a nifer o’r cyfrannwyr uchod yn Gymry gwael, nac yn Gymry colledig. Cymry a safbwyntiau gwahanol ydynt. Nid mathru’n gilydd sydd ei hangen ond yn hytrach cydfyw rhesymol a theyrngar. Rhyddid i Ben Evans ei farn; rhyddid i minnau hefyd ddatgan fy marn heb gael fy nghorneli fel rhyw Gymraes colledig. Mae yna le i wahaniaeth barn heb droi i iselraddio pobl – dysgwch hynny gyntaf, yna gallwn gael dadl ddechel.

§

Dafydd , Gorffennaf 26, 2011 8:15 pm

Yn ol bob son, mae mwy o bobl yn ymweld a Ffrainc na’r DU. Beth ddigwyddodd i’w teulu brenhinol nhw de?

§

Ben Evans , Gorffennaf 27, 2011 11:17 am

Iselraddio pobl! Yn gwmws beth mae’r teulu brenhinol yn ei wneud.

§

Fon Gruffydd , Gorffennaf 27, 2011 7:07 pm

Parasitiaid estron rhyfelgar rhagrithiol sy’n goron symbolaidd ar system sydd ar ei ffordd i fin sbwriel hanes – pwy sydd angen teulu brenhinol Lloegr? Brysied y dydd cawn ni weriniaeth Gymreig annibynnol.

§

Colin Roberts , Gorffennaf 31, 2011 10:17 pm

Beth yw pwynt y teulu frenhinol da i ddim? i helpu’r economi Llundain dyne gyd! Mae’n siwr fod William a Kate yn bobl annwyl ond dwi ddim yn gwybod be da mae nhw I Gymru, dydi’r americanwyr ddim yn dod i Cymru i weld yr teulu frenhinol, i fwyafrif o Americanwyr dwi’n adnabod yw fod Cymru dal yn rhan o Lloegr, does genai dim byd yn erbyn Saesons, jus weld fod yr Teulu yma yn da i ddim i ni yn yr wlad yma, yn enjoio bywyd tra ma pawb eraill yn slafio, enwedig Charley prince of pays de Galles…be mae o di neud i Cymru? pwy byneg sydd yn deud fod y teulu brenhinol enwedig yr diwc of edinburgh ar frenhines yn pobl brysyr iawn sydd wedi neud waith galed ddim yn wybod beth yw waith galed i deud y gwir!

§

Jane Williams , Awst 6, 2011 9:39 am

Colin – wnes ti feddwl erioed a fyddet ti’n hoffi mynd o amgylch y wald yn agor archfarchnadoedd, yn gorfod mynd o ddigwyddiad i ddiwgyddiad a therulio dy fywyd yn bod yn serchog i fobl nad wyt yn ei hadnabod nac am eu hadnabod. Ti’n meddwl am eilaid bod Kate a William am y briodas fawr yna – tebyg byddai wgell ganddynt fod wedi cael priodas fel Zara a Mike ond ni, ti a fi, sydd yn mynnu eu bod yn gyhoeddus yn y pethau hyn. Ni, ti a fi, sydd yn prynu y papurau i weld y lluniau a’r hanesion; ni, ti a fi, sydd yn prynu Helo ac ati i fwynhau y cyfan. Ni, ti a fi, sy’n mynnu bod y baneri yn chwifio pan byddant yn ymweld a llefydd. Gadewch i ni gael y ffeithiau’n gyiwr – mae’r Teulu Brenhinol yn gwneud yr hyn maent a bod yr hyn maen am mai dyma mae trwch y boblogarth – o Gymru, Lloegr a’r Alabn am iddynt ei wneud – lleiafrif wyt ti a minnau yn eu gwrthwynebu. Nid mynd ar ol y Teulu Brenhinol dylem ei wneud – gwneud y gwaith y mae’r wlad yn gofyn iddynt eu wneud maent – ni y bobl sydd yn eu rhoi yn y sefyllfa.

§

Myrddin , Medi 3, 2011 5:59 pm

Mae’r pwynt fod hanes y frenhiniaeth yn dod ac arian twristiaeth yma yn un na ellir ei ddadlau.. OND, mae’n rhaid cofio, mai yr HANES maent yn dod yma i weld, a dydynt ddim yn rhoi haner sosej wedi llosgi am y bobl eu hunain. Er engraifft, mae brenhiniaeth a phlasdai ffrainc yn dal i ddod a miliynau i’w econemi drwy dwristiaeth ac ati (palas y louvre, a.y.y.b), er eu bod (wedi gwneud y peth call, yn fy marn i, a) wedi cael gwared ohonynt ganrifoedd yn ol. Felly, maent mewn gwirionedd yn cael y fargen orau o lawer. Dydynt ddim yn gorfod talu pres poced y teulu barus, a maent yn dal yn manteisio yn llawn ar *yr hanes*. Does gan neb ddiddordeb mewn dod i weld y creaduriaud truan eu hyn, a pam ydach chi’n meddwl am y peth, pa wahaniaeuth mae eu cael yn ei wneud i dwrist? Prin maent yn cael eu gweld ar ymweliad dydd i’r palas.
Siawns fod gennym ni bethau gwell i ddathlu am ein gwlad na hen deulu parasitaidd, an ddemocrataidd, di-bwynt?

§

Boiobangor , Medi 3, 2011 8:56 pm

hwn ydi’r safle bois!
http://www.facebook.com/republiccampaign

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.