Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gwilym Owen yn beirniadu’r BBC

Gorffennaf 28, 2011 09:47, Diweddarwyd am 09:47


Gwilym Owen
Mae’r Gymraeg yn mynd yn iaith ar gyfer y dosbarth canol yn unig, yn ôl y newyddiadurwr Gwilym Owen – un o’i negeseuon wrth ymddeol o gyflwyno rhaglen radio bob wythnos.

“Yr unig bobol sydd yn ymladd drosti ac yn meddwl ei bod hi werth ei chadw ydi’r bobol sydd yn byw arni ac yn byw yn fras iawn, iawn arni hi,” meddai.

Ond mae ei bryder mwya’ am ddyfodol newyddiduraeth Gymraeg, heb weld fawr o ddatblygiad o ran print ac yn feirniadol o Newyddion teledu’r BBC.

“Mae pob peth yn ffitio i’w le, rhyw funud a chwarter, munud a hanner a rhyw ystrydebol, arwynebol dw i’n ffeindio’r driniaeth.”

Ac yntau wedi bod yn bennaeth ar raglenni newyddion HTV, cyn mynd i swyddi golygyddol yn y BBC, mae’n credu mai camgymeriad oedd rhoi’r holl newyddion teledu Cymraeg yn nwylo’r Gorfforaeth, pan gafodd S4C ei sefydlu yn 1982.

“Dwi’n meddwl ei fod o wedi bod yn gam â datblygiad newyddion Cymraeg. Mae o wedi cael dylanwad ar newyddiaduraeth print a popeth arall trwy osod y safon. Ond safon BBC Lludeinig ydi hwnnw. Yn fy marn i, mae o wedi dal datblygiad newyddiaduraeth Gymraeg oedd yn ymhél â bywyd Cymru yn ôl.”

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 28 Gorffennaf

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Menna Machreth , Gorffennaf 28, 2011 10:33 am

“Yr unig bobol sydd yn ymladd drosti ac yn meddwl ei bod hi werth ei chadw ydi’r bobol sydd yn byw arni ac yn byw yn fras iawn, iawn arni hi,” meddai.
Beth yw’r dystiolaeth?
Mae’n biti felly i Gwilym Owen anghofio gofyn i’r criw o ymgyrchwyr oedd yn gwersylla tu allan i stiwdio’r BBC ym Mangor beth oedd eu cefndir a’i gwaith. Roedd o leia dwy yn ein plith yn ddi-waith ac yn methu dod o hyd i waith sy’n talu mwy na’r isafswm cyflog heb sôn am gyflogau breision y bobl sy’n gweithio i’r sianel roedden nhw’n gwneud y gwaith ymgyrchu drosti. Jamie Bevan a Heledd Melangell hefyd sydd wedi derbyn cosb lem yn y llys am ymgyrchu’n ddi-drais, ond pobl o’r Cymoedd/Gwynedd oedd yno’n cefnogi tu allan i’r llys, eto nid y sawl sy’n gwneud arian o ganlyniad i ymgyrchoedd yr iaith.

§

alun lewis , Gorffennaf 28, 2011 3:01 pm

yn cytuno, mae nifer o siaradwyr cymraeg yn troi o s4c, fi’n cofio amser pan oedd nifer o gyfeillion (heb llawer o gymraeg) yn ardal abertawe yn gwylio rhagleni s4c, ond nawr mae hyd a nod rhagleni fel wedi 7 wedi mynd yn snobyddlid, ddim yn mynd allan ar y strydoedd i gwrdd a phobol, a mae mwy am lyfies cymru na beth sydd yn berthnasol i rhan fwyaf o gymru.

gormod o fyw mewn bybles yn gaerdydd a llanelli.

mwynhewch eich ymddeoliad gwilym, a diolch am eich cyfraniad gwerthfawr.

§

Gwyn, Cwm Taf , Gorffennaf 29, 2011 9:41 am

awtsh! Celpan i’r Gorfforaeth gan un o’i gweision am flynyddoedd lawer. Er hynny, dwi’n siwr fod Gwilym Owen yn falch iawn o bensiwn hael y Bib bellach…

§

Martin Wilias , Medi 21, 2011 12:05 pm

Cymharwch y gyfres deledu Dinas hefo C’mon Midffild.
Pwynt positif- ni fydd yn rhaid i Golwg360 boeni am grafu tin y BBC!
Efallai fod Gwyn, Cwm Taf wedi dweud y caswir am GO. Ond y mae gen i barch tuag at GO- nid yw’n Bleidiwr.
Mae Radio Cymru braidd yn ddiflas heb Wythnos GO pob prynhawn Llun.
Byddai’n well gen i ddarllen colofn gan GO yng nghylchgrawn GOLWG (comeback?) nag un gan AM. Barn bersonol- dyna i gyd.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.