Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dim rhagor o dynhau’r belt, meddai’r Eisteddfod

Gorffennaf 29, 2011 08:11


Elfed Roberts - rhybudd
All yr Eisteddfod Genedlaethol ddim diodde’ rhagor o doriadau ariannol, heb orfod torri swyddi neu faint yr ŵyl ei hun, yn ôl Cyfarwyddwr y Brifwyl.

Ar drothwy’r Eisteddfod eleni, fe ddywedodd Elfed Roberts wrth y BBC fod gwario’r ŵyl eisoes wedi ei dorri i’r bôn.

Mae yna bwysau ariannol eleni, gyda rhai noddwyr masnachol yn tynnu’n ôl oherwydd y dirwasgiad a’r pwyllgorau lleol yn Wrecsam heb allu cyrraedd eu targedau codi arian.

Mae cyfraniad cynghorau sir Cymru ychydig yn llai eleni hefyd tra bod cyfraniad y Llywodraeth yn aros yn ei unfan.

Pwysau

Ond, yn ôl Elfed Roberts, fe fydd y pwysau’n cynyddu y flwyddyn nesa’ ac yn 2013 ac fe allai tywydd gwael neu broblemau tebyg achosi trafferthion mawr.

Roedd yr Eisteddfod, meddai, wedi bod yn torri ar gostau ers blynyddoedd ond dim ond dau ddewis arall fyddai ar ôl bellach – cwtogi swyddi neu weithgareddau.

Mae gan yr Eisteddfod ddwsin o weithwyr llawn amser.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


@rhysw1 , Gorffennaf 29, 2011 9:59 am

Mae llawer iawn o bobl (a’r rheini’n eisteddfodwyr) wedi bod yn dweud bod cost cynnal yr wyl yn rhy uchel ers bron i ddegawd rwan. Rhaid meddwl am ffyrdd i leihau costau cynnal yr wyl,a drwy hynny caniatau iddo allu cael ei gynnal mewn mwy o wahanol leoliadau.

Os/pam ddaw’r grantiau (Bwrdd yr Iaith ac Awudrdodau Lleol Cymru) i ben, oes gan yr Eisteddfod Plan B?

e.g.
Safle(oedd) parhaol
Torri’r scale i lawr a chanolbwyntio ar gerddoriaeth un flwyddyn, drama y nesaf ayyb

§

Adam Jones , Gorffennaf 29, 2011 11:54 am

Cytuno mae’r cyfyngiadau ar safleoedd addas yn ergyd mawr i’r steddfod mewn ardaloedd byddai’n mwy na pharod codi arian drosto. Cymer Rhydaman fel enghraifft, cae gwastad gweddol fwy ond yn fyr o rhyw 2/3 erw ac felly mae’n anaddas, golyga hyn bod Rhydaman bellach yn colli allan rhag cael yr eisteddfod eto, mewn ardal sydd angen hwb i’r iaith cyn i’w chael ei cholli am unwaith ac am byth, ond mae swyddogion y Steddfod wedi dweud na.

Ergyd i’r ardal ac ergyd i’r Gymraeg mewn ardal lle mae’r iaith yn wynebu’i thynged perygla yng Nghymru.

§

Hedd Gwynfor , Gorffennaf 29, 2011 12:40 pm

Mae’r Eisteddfod yn gwneud gwaith gwych o ran hybu’r Gymraeg a’n diwylliant, a rhaid sicrhau nad yw hyn yn cael ei beryglu.

Ers rhyw ddeng mlynedd mae’r Eisteddfod wedi cymryd ymlaen cyfrifoldebau enfawr newydd megis MaesB a MaesC (y gigs hy, nid y meysydd gwersylla). Roedd adloniant gyda’r hwyr i filoedd o bobl tua allan i’r pafiliwn yn cael ei gynnig gan fudiadau eraill beth bynnag cyn hyn, Cymdeithas yr Iaith ac eraill, ac hynny heb unrhyw gymhorthdal/grant. O’r hyn ddeallaf, mae MaesB wedi gwneud colledion anferth ar adegau hyd at 100k mewn blwyddyn.

Efallai bod angen ail feddwl a chydweithio gyda mudiadau eraill i gynnig adloniant gyda’r hwyr unwaith eto heb ddefnyddio arian cyhoeddus, a heb risg ariannol i’r Eisteddfod?

§

Cynon , Gorffennaf 29, 2011 1:42 pm

Gan taw’r un bobl a mudiadau sy’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, ac yn eu hariannu nhw, beth am gyfuno’r ddwy a’u cynnal nhw mewn un lleoliad, ac o fewn yr un cyfnod, bob blwyddyn?

Mae gormod o fudiadau, sefydliadau ac awdurdodau lleol sy’n gwario arian ar gynllyniau sydd, fwy neu lai, yr un peth ond sydd eisiau rhoi eu stamp eu hunain arnyn nhw. Mae’n wastraff.

§

Aled , Gorffennaf 29, 2011 10:45 pm

Gan taw’r un bobl a sefydliadau sy’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, ac yn eu hariannu nhw, beth am gyfuno’r ddwy? Byddai’n ddigon hawdd eu cynnal nhw ar yr un safle bob blwyddyn er mwyn torri costau.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.