
Fe fydd misoedd o ymgyrchu yn erbyn toriadau’r llywodraeth i gyllideb S4C yn cyrraedd penllanw gyda rali ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai neges y rali yw ei bod yn “amser i’r gwleidyddion ddelifro S4C newydd”.
Ers i’r Llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi ar eu grant i’r sianel deledu Cymraeg, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru a’r Archesgob Cymru Barry Morgan wedi datgan eu gwrthwynebiad, meddai’r Gymdeithas.
Beirniadwyd cyd-cynllun y BBC a’r Llywodraeth gan y Pwyllgor Materion Cymreig a’r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan, ac ym mis Mawrth eleni, cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb a lofnodwyd gan 13,000 o bobl yn erbyn y cwtogiadau.
‘Ddim am fynychu’r angladd’
Yn annerch y dorf yn y rali am ddau i’r gloch y prynhawn fe fydd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, yr AS Llafur Susan Elan Jones, Meic Birtwistle o Undeb y Newyddiadurwyr.
Ac mewn neges o gefnogaeth i’r rali, dywed y ddarlledwraig Sian Lloyd:
“Fel rhywun sy’n dod o deulu di-Gymraeg, dwi’n gwerthfawrogi pwysigrwydd S4C.
“Cymerais ran yn y frwydr i sefydlu’r sianel a nawr rhaid brwydro i’w hadfer. RHAID mynd a’r ddadl at y Llywodraeth yn Llundain. Daeth yr ergyd drom hon o’r Glymblaid – ergyd nid yn unig i’r sianel ond i iaith a diwylliant Cymru,” meddai.
“Dyma ergyd felly yn erbyn Cymru a’i phobol. Yn sicr, rhaid diwygio S4C a gwneud y sianel yn berthnasol i’r dyfodol.
“Ond yn y bôn, dyma chi fater o egwyddor. A hefyd hunan-barch. Cafwyd brwydr o safbwynt creu’r sianel. Dewch i ni frwydro gyda’r un angerdd a phenderfyniad i achub S4C. Roeddwn i yno ar gyfer yr enedigaeth. Dydw i ddim am fynychu’r angladd.”
‘Gwneud nid dweud’
Dywed Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod “pawb yng Nghymru eisiau gweld gwireddu S4C newydd, dim mwy o’r hen gelwydd oddi wrth y Torïaid na neb arall sy’n mynnu fod llai na hynny’n dderbyniol.
“ Yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, rydym am alw ar wleidyddion i ‘wneud nid dweud’ a phleidleisio i dynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus,” meddai.
Fe fydd protestwyr yn cerdded draw at stondin Llywodraeth Cymru i ddadlau dros ddatganoli darlledu i Gymru.
Bydd y rali’n cael ei chynnal yn yr Eisteddfod heddiw am 2.