Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Angen gwneud rhagor i ddenu pobol leol’

Awst 7, 2011 11:56


Elfed Roberts - addo ystyried
Mae cynghorydd o Wrecsam yn dweud bod angen gwneud mwy i ddenu pobol leol i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Un o’r prif argymhellion yw gostwng pris mynediad ar gyfer teuluoedd a dod o hyd i ffordd o ddangos cymaint o amrywiaeth o bethau sydd ar gael ar y Maes.

“Does yna ddim sens mewn codi £40 ar deulu o bedwar am ddiwrnod, yn enwedig mewn ardal ddi Gymraeg lle mae pobol leol eisio mentro ond ddim cweit yn siŵr be’ sydd yno ar eu cyfer,” meddai Marc Jones, sy’n cynrychioli ward yng nghanol y dre’.

Fe ddywedodd bod angen “ail-edrych” ar ffyrdd o ddenu pobol leol, sydd efallai yn ddi Gymraeg ac sydd heb fod yn selogion eistoeddfodol.

Yr awgrymiadau

Ar wefan Plaid Wrecsam, mae’n gwneud nifer o awgrymiadau:

  • Meddwl eto am gynnig tocyn am ddim ar y Sul cynta’, fel yng Nglyn Ebwy y llynedd.
  • Cynnal gweithgaredd yng nghanol y dre’ i roi blas o’r Eisteddfod.
  • Perswadio radio a theledu Saesneg i ddarlledu mwy na’r cystadlu er mwyn dangos bod llawer rhagor yn yr Eisteddfod ar gyfer pawb.
  • Gwell gwybodaeth am y gweithgareddau ar ôl cyrraedd y Maes.
  • Cau’r bariau ar y Maes am 7.00pm er mwyn denu rhagor o Eisteddfodwyr i dafarndai lleol.

Ond roedd hefyd yn canmol trefniadau’r Eisteddfod a chyfraniad y gwirfoddolwyr.

‘Diffyg adnoddau’

Diffyg adnoddau yw’r brif broblem wrth geisio dilyn rhai o’r argymhellion, meddai Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Fe fyddai cynllun tocyn am ddim fel y llynedd wedi bod yn anodd iawn ei weinyddu ac wedi cynnwys y rhan fwya’ o ogledd Cymru – fel yr oedd, meddai, roedd 4,500 o bobol leol o ardal Wrecsam ei hun wedi dod i mewn am ddim ar y dydd Sul.

Yn y gorffennol, roedd sgrîn wedi ei chodi yng nghanol tref yr Eisteddfod i ddangos lluniau o’r ŵyl, ond fe fyddai llogi sgrîn o’r fath yn costio tua £15,000.

“Er mwyn cynnal rhywbeth byw, mi fyddai’n rhaid cael staff,” meddai, “ac mae llawer o staff yr Eisteddfod eisoes yn gorfod gweithio rhwng 7 y bore ac 11 y nos bob dydd.”

Ond fe addawodd y bydd Bwrdd yr Eisteddfod yn ystyried syniadau newydd yn ofalus, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o wobrwyo pobol sy’n prynu nifer o docynnau, gan gynnwys y cyngherddau nos.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


@rhysw1 , Awst 8, 2011 1:28 pm

Argymhellian doeth iawn.

‘Sdim rhaid talu £15,000 am sgrin, mond cael llwyfan/bandstand yn y dre, a gwahaodd rhai o’r artisitiad sy fel arfer ar y DDWY lwyfan perfformio’r maes i ganu arni, a/neu rhai o’r cystadleuawyr yny cystadleuthau canu/dawnsio/offerynol. Byddai’n rhoi gwell flas ar beth sydd ar gael ac yn gyfle i’r rheini ymarfer o flaen torf.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.