
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy na £2 miliwn o arian cyhoeddus i’r undebau llafur, yn ôl ffigyrau newydd.
Daeth y manylion i’r amlwg yn dilyn ymholiad ysgrifenedig gan ddirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, i’r gweinidog cyllid Jane Hutt.
Yn ôl y ffigyrau derbyniodd 15 o undebau llafur £2.4 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad dros gyfnod o dair blynedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai nod y taliadau oedd codi lefel sgiliau gweithwyr a bod hynny’n cyfiawnhau’r gost.
Ond dywedodd Paul Davies, AC Preseli Penfro, ei fod yn pryderu fod y Blaid Lafur yn defnyddio arian cyhoeddus er eu budd eu hunain.
Roedd £1 miliwn wedi ei roi i undeb Unsain a £97,000 i’r GMB, meddai.
Roedd Unsain wedi rhoi £3,065 tuag at ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn 2009, a’r GMB wedi rhoi £14,197 tuag at ymgyrch Peter Hain i fod yn Ddirprwy Brif Weinidog dwy flynedd ynghynt.
“Rydyn ni’n gofyn am ragor o dryloywder gan ein gwleidyddion erbyn hyn, a bydd y pleidleiswyr wedi synnu fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o arian cyhoeddus i undebau sy’n rhoi arian i’r Blaid Lafur,” meddai Paul Davies.
“Mae’r Blaid Lafur wedi derbyn 87% o’i nawdd gan undebau eleni – felly mae’n bryder fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio’r pwrs cyhoeddus er mwyn llenwi coffrau’r undebau.
“Wrth i deuluoedd ar draws Cymru dorri nôl er mwyn dod a dau ben llinyn ynghyd rhaid i weinidogion Llafur ddangos eu bod nhw’n rhoi blaenoriaeth i hybu twf yn yr economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
“Bydd rhoi llawr iawn o arian cyhoeddus i’r undebau yn tanseilio ffydd pobol mewn gwleidyddion a gwanhau eu ffydd yng ngweinidogion Llafur Cymru.”
‘Hanfodol’
Mae Llywodraeth Cymru wedi taro’n ôl gael ddweud fod undebau llafur Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth hybu gweithlu’r wlad.
“Mae’r taliadau yma o ganlyniad i ymrwymiad hirdymor i godi lefel sgiliau gweithlu Cymru,” meddai llefarydd.
“Mae’r undebau llafur yng Nghymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses yma.
“Mae un o’u rhaglenni, Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn annog cyflogwyr a gweithwyr i gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi.
“Mae’r gronfa wedi bod yn gweithio’n effeithiol ers 2004 ac wedi helpu rhagor na 10,000 o weithwyr ar draws Cymru i ddysgu ag ennill sgiliau newydd.”
Dafydd Ch , Awst 10, 2011 11:20 am
§