Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Casineb’ a ‘chwerwder’ gwrth-Gymraeg yn y Daily Mail

Awst 12, 2011 15:18, Diweddarwyd am 15:33


Clawr Bred of Heaven
Mae adolygiad gan Roger Lewis yn y Daily Mail heddiw wedi cythruddo nifer o Gymry ar twitter a Facebook, ac wedi ennyn ymateb gan awdur y llyfr sy’n sail i’r cyfan.

 Yn ei adolygiad o’r llyfr Bred of Heaven, sy’n ymddangos dan y teitl ‘Boyo boy – being a Taffy is tough!’ ar dudalen 50 y Daily Mail, mae Roger Lewis yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg fel “monkey language”.

Yn ôl awdur Bred of Heaven, mae Roger Lewis yn euog o daenu casineb a chwerwder.

 “Yn ôl y rheol, mae dyn i fod derbyn y safwyntiau a geir mewn adolygiad a hynny gyda grâs,” meddai Jasper Rees mewn datganiad Saesneg i Golwg360.

“Dw i’n ansicr am dorri’r rheol hwnnw, ond mae’r ymosodiad a geir ar fy llyfr Bred of Heaven yn y Daily Mail yn mynnu ymateb. Mae’r llyfr yn sôn am f’ymdrechion i droi fy hun yn Gymro. Er bod yn rhaid i mi dderbyn ei feirniadaeth o’m cymhellion, mae’r adolygiad wedi’i sgrifennu gyda chasineb a chwerwder sydd, i bob golwg, wedi’i ddallu o ran yr hyn sydd yn y llyfr go iawn.”

Yn ôl Jasper Rees, gwrth-Gymreictod yw’r math ola’ o hiliaeth sy’n dderbyniol.

“Mae’r casineb gwaethaf wedi’i hyrddio tuag at y Gymraeg, “the appalling and moribund monkey language”,” meddai’r awdur.

“Mae hyn yn sarhad haerllug ofnadwy i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mae hefyd yn dilorni’r Gymraeg am fenthyca o’r Saesneg. Saesneg, wrth gwrs, yw’r brwgaitsh amlddiwylliannol fwyaf ohonyn nhw i gyd. Sy’n cael ei drafod yn fy llyfr.

“Dw i wastad yn poeni ei bod hi’n hen ystrydeb ddiflas i ddweud unwaith eto mai safbwyntiau gwrth-Gymreig yw’r math olaf o hiliaeth i gael ei oddef. Yna mae erthygl fel hon yn cael ei chyhoeddi mewn papur newydd Llundeinig.”

Yr adolygiad

Yn y Daily Mail mae’r adolygydd Roger Lewis (a gafodd i eni yng Nghaerffili) yn ymosod ar gymhelliant Jasper Rees dros sgwennu’r llyfr, ar y Cymry a’r iaith Gymraeg:

 ‘…in his quest to call himself a Celt, our author does the maddest thing of all — he actually learns Welsh, by attending evening classes (in London/Llundain) and going on courses.

‘I abhor the appalling and moribund monkey language myself, which hasn’t had a new noun since the Middle Ages — hence pwdin is pudding, snwcer is snooker, tacsi is taxi and bocsio is boxing….

‘… I detest the way Wales has been turned into a foreign country, with a Welsh language radio station, television channel, and dual-language road signs.

‘In fact, most Welsh families, in the South particularly, have been in Wales for only five minutes, having come from Scotland and Cornwall to work in the mines.

‘The Eisteddfod, where the bards look like the Ku Klux Klan in white wellies, is an ancient ceremony dating all the way back to 1880. Ye Warriors of Gwynedd they are not….

 Cefndir

Cyhoeddodd Jasper Rees ei lyfr newydd, Bred of Heaven ddechrau Awst – llyfr taith ysgafn am ddyn yn ymroi i fod yn Gymro, trwy ddysgu’r iaith, ymuno â chôr a chystadlu ar gyfr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod.

Cafodd ei dad i fagu yn Sir Gâr, ond cafodd yntau ei fagu yn Llundain ac addysg mewn ysgol fonedd. Fe fu’r llyfr yn Book of the Week ar Radio 4 a bu’r adolygiadau yn ffafriol – hyd nes heddiw.

* Bred of Heaven, Jasper Rees, Profile Books, £12.99

 Gohebydd: Non Tudur

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Carl Morris , Awst 12, 2011 3:37 pm

Bw hw. Dim ond dyn gyda gwefan.

Maen nhw yn wneud arian o’n sylw trwy hysbysebion.

§

Carl Morris , Awst 12, 2011 3:38 pm

Fersiwn amgen o’r erthygl ar wefan gwahanol.
http://www.dailyveil.co.uk/home/books/article-2024591/Exploited-raped-controlled-punished-English–mans-ambition-Welsh.html

§

Hendre , Awst 12, 2011 3:49 pm

Faint yw oed Roger Lews? AA Gill, AN Wilson, Jeremy Clarkson, Jeremy Paxman…. all men of a certain age…

§

Adam Jones , Awst 12, 2011 3:50 pm

Dwi di blogio amdano fan hyn, yn yr iaith fain yn anffodus (saethwch fi nawr) ond oni am i’r bobl bondigrybwyll nath ganiatáu i hwn ddigwydd deall ein dicter hefyd wedyn gobeithio y wnewch fy esgusodi.

Dyma fe: http://blogbanw.blogspot.com/2011/08/daily-mails-anti-welsh-venom.html

§

Robert Humphries , Awst 12, 2011 3:59 pm

Ymosodiad atgas ar Gymreictod gan fradwr er mwyn adlonni darllenwyr anwybodus. Yn fy marn personol, nid y Sais sy’n brif elyn Cymru, ond y Cymro sy’n anwybodus o’i ddiwylliant ei hunan ac sy’n gwawdio ar ei iaith genedlaethol. Dwi’n siwr bod yr ynfytyn hwn yn meddwl bod “ich dien” yn Gymraeg. Yn anffodus, does dim sypreis i weld y fath hon o hunan-atgasedd yn y Daily Fail.

§

ceri , Awst 12, 2011 6:55 pm

Wn i ddim pam mae Golwg yn rhoi sylw i’r teip hyn o beth.

Bydd rhywrai wastod yn tynnu arnom a rhywrai’n gasach na’i gilydd ond newidiff y bobol ‘ma byth – ots pwy mor sifil y byddwn ni’n dadlau nol.

Anwybyddwch y diawliaid a phaid a bratu amsar yn eu hateb nhw nol .. ddysgan nhw byth..

§

iaith , Awst 12, 2011 8:15 pm

mae iaith ceri yn warthus. dwi wedi bod yn annog fy mhlant i ddarllen eich gwefan, ond ar ol heddiw dwi am roi clo ar wefan Golwg a chwyno wrth eich cyllidwyr yn y cynulliad.

Gwarth.

§

Jones , Awst 12, 2011 9:58 pm

A fysa’r Daily Mail wedi cyhoeddi hwn petai yr erthygl yn son am y iaith Arabic? neu am wlad Mwslemaidd?

§

ceri , Awst 16, 2011 7:04 pm

Ymddiheuraf yn ddidwyll i ‘iaith’ am fy iaith. Gwelaf fy mod wedi newid o’r ail berson lluosog i’r ail berson unigol yn yr un frawddeg (anwybyddwch ac wedyn paid).

Er hynny, rwyf yn amau eich bod yn lladd arnaf am ddefnyddio gair sy’n odli a pukka – sydd bellach wedi’i olygu i rywbeth ffeinach o lawer.
Peidiwch a beio Golwg360 – fi sydd ar fai a nage nhw a gwnaf i byth mo peth tebyg eto – os gallaf help!!

§

John Vaughan Williams , Awst 16, 2011 9:09 pm

Hey ‘Iaith’ tyfu i fyny, mae pawb gyda gallu amrywiol pam mae’n dodi ysgrifennu Cymraeg, nid ddylem ymosod ar y pobl hyn, mae hyn yn ofnadwy ac yn warthus iawn. Dylen ni groesawu safbwyntiau pobl amrywiol er gwaethaf eu gallu hwy yn y Gymraeg naill ai ar lafar neu’n ysgrifennedig! Dylech chi ymddiheuro i Ceri.

Ceri, peidiwch a gwrando ar bobl megis ‘iaith’ lleiafrif llethol ydyn nhw. Ydy o’n well iddynt beidio a gweld unrhyw un yn yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r iaith Gymraeg??? GWARTH

§

ceri , Awst 17, 2011 3:19 am

John Vaughan Williams – chi wedi camddeall pam oedd ‘iaith’ yn lladd arnaf. Roedd ganddo berffaith hawl – bu imi regi ac fel mae mam yn gweud wrthoi – dyw hwnna ddim yn glyfar ac os wyt ti’n meddwl bo fe’n ddoniol ma rhywbeth yn bod arnot ti.

Nid lladd ar safon fy iaith oedd e ond ei natur – bach o tourettes ar bapur os mynni di.

Flynydda nol bues i o flan yr ynadon am dorri ffenestr – nage fi nath ond Eddie – the village idiot – a dyma fe ar ddiwedd yr achos yn gweud -’I don’t know what came over me! Byrstas i mas i wyrthin pan wedodd e hwnna ond heddi dyna’r unig esgus sy gen i am regi wrth adael neges ar y fforwm ma.

§

Martin Wilias , Awst 18, 2011 3:43 pm

Yn fy marn i, y mae’r rwtsh gwrth-Gymraeg diweddaraf ym mhapur newydd y Daily Mail yn cryfhau’r ddadl emosiynol (a rhesymegol!) dros drio cynnal ein Prifwyl rhywle ar dir Lloegr yn y dyfodol. Ylwch- nid wyf am hawlio mwy o ofod yma a peth peryglus a thrahaus ydi sicrwydd 100% eich bod yn gywir ynglyn a phwnc, ond ‘rwyf yn dechrau colli amynedd! Deffrwch!

§

Martin Wilias , Awst 18, 2011 3:56 pm

Ku Klux Klan? Dyma i chi syniad gwell: cynnal y Brifwyl yn Lerpwl a’r orsedd yn gwisgo siwtiau gwyn (y rhai a ddefnyddiodd tim pel-droed Lerpwl yn ffeinal Cwpan FA Lloegr rhai blynyddoedd yn ol)?
Do, Golwg360- rwyf wedi meddwl cyn teipio- hiwmor!
Efallai y peth gorau i’w wneud ydi jesd chwerthin am ben y stori!
Fel y dywed y Sgows- calm down!

§

Martin Wilias , Medi 23, 2011 4:09 pm

Cywirwch fi os ydwyf yn anghywir, ond dywed Dave Datblygu y canlynol yn un o’i ganeuon: “Mae Gorsedd y Beirdd fel y Ku Klux Klan…”

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.