Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Ymateb difeddwl i sylwadau gwrth-Gymreig

Awst 21, 2011 19:43, Diweddarwyd am 19:48


Huw Prys Jones yn amau doethineb ymatebion rhai Cymry i erthygl ddiweddar yn y Daily Mail …

Pan fo erthygl mewn papur newydd yn cyfeirio at y Gymraeg fel ‘iaith mwncis’ dw i’n cytuno nad ydi o’n rhywbeth i’w ddiystyru na’i anwybyddu.

Fel y dywed erthygl olygyddol Golwg yr wythnos yma, dyna’r math o agwedd sy’n saff o arwain at fwy o sarhad a sen.

Eto i gyd, rhaid inni fod ar ein gwyliadwriaeth sut ydan ni’n ymateb. Mi allwn ni’n hawdd fod yn torri twll yn ddiarwybod inni’n hunain.

Mae’r awdur yr erthygl yn y Daily Mail, rhywun o’r enw Roger Lewis, yn haeddu cael ei wawdio a’i ddirmygu’n ddidrugaredd. Ac yn sicr mae angen collfarnu gwerthoedd y system addysg a blannodd y fath anwybodaeth a rhagfarn ynddo fel plentyn yng nghymoedd y de.

Ond cyfeirio’r mater at yr Ysgrifennydd Cartref ac at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu fel mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru am ei wneud? Calliwch da chi!

Yn anffodus mae yna ragfarnau eithafol yn erbyn yr iaith yn dal i fod o dan yr wyneb ymysg ambell garfan o Gymry di-Gymraeg, a waeth inni heb â thwyllo’n hunain fod modd cael gwared arnyn nhw trwy eu gwahardd.

Faint o amser y comisiynydd iaith newydd tybed fydd yn cael ei wastraffu’n mynd i’r afael â chwynion am erthyglau o’r fath?

 Pwyllo

Bob tro y cawn sylwadau rhagfarnllyd o’r fath – gan gynnwys rhai llawer mwy diniwed yn aml – mae fel petai yna gystadleuaeth ymysg carfan o wladgarwyr/cenedlaetholwyr o ran pwy all ymateb fwyaf eithafol iddyn nhw.

Mi fyddai’n ganwaith callach i bwyllo ychydig cyn rhuthro i gwyno – ac yn sicr cyn gwneud cyhuddiadau o hiliaeth.

Un o’r dadleuon a glywn ni’n aml ar achlysuron fel hyn ydi ‘fyddai peth fel hyn byth yn cael ei oddef petai’n cael ei ddweud am Asiaid…’

Digon gwir … ond ydan ni o ddifrif eisiau mynd i lawr y ffordd honno?

Fydden ni o ddifrif eisiau cyfyngu’r camau y medrwn ni eu cymryd i amddiffyn Cymreictod cymunedau Cymraeg i’r hyn a fyddai’n dderbyniol yng nghyd-destun mewnfudo yn Lloegr?

Does ond angen darllen ymlaen yn yr un rhifyn cyfredol o Golwg i weld llythyr gan Rod Richards sy’n profi’r union bwynt yma.

Mae’n cyhuddo’r Eisteddfod o fod yn hiliol am lwyfannu rhan o un o gampweithiau ein llên, Cyn Oeri’r Gwaed.

Dw i’n siwr mai tynnu blewyn o drwyn y sefydliad Cymraeg ydi unig fwriad Rod Richards – go brin y gallai ei elyn pennaf ei gyhuddo o fod ag obsesiwn am gywirdeb gwleidyddol.

Ond er mor chwerthinllyd ei ddadl, mae’n dangos inni pa mor hawdd ydi hi i’r esgid fod ar y droed arall. A chofio pa mor hoff fu rhai o elynion y Gymraeg, fel y colofnydd Paul Starling o’r Welsh Mirror, o ddefnyddio cyhuddiadau o hiliaeth yn ein herbyn ni.

Y ffaith ydi fod y math o wenwyn oedd yn cael ei hyrwyddo gan Starling a’i debyg yn y Welsh Mirror yn llawer mwy dinistriol na’r lol diweddaraf yn y Daily Mail.

 Gwyliadwriaeth

Mae’n rhaid inni fod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaus i wrthsefyll unrhyw ymgais i ehangu cywirdeb gwleidyddol yng nghyd-destun yr iaith.

Meddyliwch sut fyddai hi petai sefydliadau fel yr Eisteddfod a’r BBC yn cymryd yn eu pennau i fonitro cynnwys campweithiau llenyddol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n dderbyniol yn wleidyddol.

Cymerwch fel enghraifft yr awdl Cwm Carnedd lle mae’r bardd yn galaru mai ‘neb ond Saeson hinon ha’ sydd ar ôl mewn cymuned wledig Gymraeg.

Dydi o ddim yn cymryd llawer o ddychymyg i feddwl am ryw ben bach gwleidyddol gywir yn gofyn ‘beth petai bardd o Loegr wedi gwneud cerdd debyg yn galaru at y ffaith mai dim ond Indiaid sy’n byw yng Nghaerlŷr bellach?’

Dyna ydi’r math o dwll yr ydan ni’n ei dorri inni’n hunain os na byddwn ni’n fwy hirben wrth drio taro’n ôl yn erbyn ymosodiadau rhagfarnllyd arnom.

Os mai ‘rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar’ mae hynny weithiau’n cynnwys pethau nad ydan ni’n leicio’u clywed.

Ond onid ydi hynny’n ganwaith gwell na byw mewn cymdeithas lle byddai’n beryg bywyd dweud dim byd am neb heb gael y frigâd wleidyddol gywir ar eich cefnau?

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Simon Brooks , Awst 21, 2011 9:19 pm

Yr unig broblem fan hyn ydi y bydd y gwrth-Gymraeg yn defnyddio deddfwriaeth cydraddoldeb yn erbyn y Gymraeg beth bynnag. Fe fydd yr achosion llys ar sail cymell casineb hiliol yn erbyn y sawl sy’n defnyddio’r term Sais mewn rhyw ffrwgwd neu’i gilydd yn parhau. Fe fydd y Wasg Brydeinig yn parhau i gyflwyno’r ddadl bolisi dros wrthwynebu mewnlifiad i gefn gwlad fel hiliaeth etc. Fydd hynny ddim yn newid, jyst oherwydd fod y Cymry yn peidio cyhuddo pobl fel Roger Lewis o hiliaeth o bryd i’w gilydd. Mae dyletswydd amlwg ar yr heddlu i ymchwilio i’r mater hwn ac i gyfweld Roger Lewis. Mater iddyn nhw ydi os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny wrth arestio Roger Lewis ai peidio. A mater i’r CPS ydi penderfynu os oes gobaith realistig o erlyniad llwyddiannus.

§

chris castle , Awst 22, 2011 7:12 am

Ar y cyfan, cytunaf a Huw Prys Jones yn hytrach na Seimon yma. Nid mor ddifrif a’r “Welsh Mirror” yw hyn.
Bu’r erthygl yn y Daily Mail yn un twp ac atgas. Rhaid inni ei beirniadu a pentyrru dirmyg ar ben yr ysgrifennwr. Ond dydy galw “Hiliaeth” ar bob xenophobe ddim yn gwneud dim o les i neb.

§

Ben Evans , Awst 22, 2011 9:20 am

“Faint o amser y comisiynydd iaith newydd tybed fydd yn cael ei wastraffu’n mynd i’r afael â chwynion am erthyglau o’r fath?”

Gwastraffu?! Huw Prys Jones yn pwyntio allan unwaith eto mae’r Cymry Cymraeg sydd yn broblem rhun mor fawr a’r agweddau sy’n cael ei printio yn papurau fel y Daily Mail!
Mae’n iawn felly i Roger Lewis i alw’n iaith yn “iaith mwnci” ac fod Gorsedd y Beirdd fel y Ku Klux Klan ond peidiwch a cwyno i neb gan fod pawb yr hawl i’w barn! Beth nesa? Yr hawl i bwyntio gwn at bobl mewn tafarn ym Mhenryndeudraeth oherwydd bod rhywun yn gofyn am ddiod yn y Gymraeg? Adeiladu miloedd ar filoedd o dai fel bod Saeson yn gallu symud yma i gael gwared yr “iaith mwnci” !

Calliwch da chi Huw Prys Jones!

§

twrch , Awst 22, 2011 10:37 am

Anghytunaf a Mr Prys-Jones. Dyw hiliaeth ddim yn diflannu i’i anwybyddu. I’r gwrthwyneb, mae’n cryfhau. Does dim lle mewn cymdeithas fodern i hiliaeth ( a dyna beth yw’r zenophobia yma) dylid ei herio bob tro.

Nid rhywbeth cymru /saeson yw hyn. Fel dinasyddion y byd, tydi hiliaeth ddim yn dderbyniol

§

Martin Wilias , Awst 25, 2011 11:31 am

Yn ddelfrydol, byddai’r Cymry Cymraeg i gyd yn ymateb drwy ddechrau ymgyrch i drio, yn hwyr neu’n hwyrach, cynnal ein Prifwyl ar dir Lloegr. Un flwyddyn yn unig. Risg.
Hwb seicolegol. Beiddgar. Mentrus. Y mae gennym lawer mwy i’w ennill nac i’w golli.
Neu beth am sgwennu i’r BBC yn gofyn am fwy o bethau Cymraeg ar e.e. BBC4 neu Radio4?
Mae’n amhosibl dileu rhagfarn a sylwadau twp ac anwybodus yn erbyn y Gymraeg yn gyfan gwbl. Ond gallwn wella’r sefyllfa drwy fod yn feiddgar a dychmygus.
Diolch am y ffaith y gwnaeth Glyn ag Imogen sgwrsio yn Gymraeg ar Big Brother. Ond y mae hyn yn hen hanes bellach. Ymlaen i’r digwyddiad nesaf…

§

Martin Wilias , Awst 30, 2011 11:34 am

Siaradais ddoe ar Radio Wales o blaid cynnal y Brifwyl yn Lloegr.
Y mae hon yn frwydr iaith seicolegol ymysg y Cymry Cymraeg y mae’n rhaid ei hennill.
Galwaf ar arweinwyr hirben (os oes yna rai) Plaid Cymru i gychwyn ymgyrch o blaid y syniad.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.