
Robert O'Dowd
Ar ôl y sioc o ymddiswyddiad prif weithredwr y ganolfan gelfyddydol Pontio ddoe, dywed Prifysgol Bangor ei bod hi’n rhy gynnar i drafod y broses o benodi olynydd iddo.
“Dydi’r Brifysgol ddim wedi cyrraedd y cam o feddwl am fanylion penodi Prif Weithredwr newydd i Pontio,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol Bangor wrth Golwg360.
Daw hyn wedi’r datganiad ddoe fod prif weithredwr canolfan gelfyddydol Prifysgol Bangor wedi gadael ei swydd.
Cafodd Robert O’Dowd, sy’n ddi-Gymraeg, ei benodi’r llynedd ac roedd disgwyl i’r ganolfan agor yn 2013.
“…Mae bellach wedi penderfynu gadael y brifysgol er mwyn parhau i ddatblygu ei sgiliau entrepreneuriaid a busnes mewn meysydd eraill,” meddai’r Brifysgol mewn datganiad ddoe, wrth ddiolch iddo am ei waith.
“Diolch i Robert O’Dowd am ei ymrwymiad i Pontio sydd wedi elwa yn fawr iawn o’i arweiniad yn ystod y cyfnod cyntaf allweddol hwn.”
Roedd y ganolfan newydd ddiwylliannol £28 miliwn wedi ei feirniadu yn gynharach eleni am beidio â sicrhau fod digon o’r staff yno’n siarad Cymraeg. Dywedodd Prifysgol Bangor ym mis Chwefror eleni eu bod nhw’n bwriadu ailfeddwl agwedd y ganolfan at yr iaith yn dilyn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith.
Dim gwybodaeth
Ond, doedd dim gwybodaeth am benodi Prif Weithredwr newydd i Pontio heddiw.“Dydyn ni ddim wedi gyrraedd y cam yna eto,” esboniodd Alan Parry, arweinydd Adran Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata’r Brifysgol.
“Rydan ni yng nghanol y broses o benodi cyfarwyddwr artistig ar hyn o bryd felly hwnna ydi’r flaenoriaeth ar hyn o bryd,” meddai
Wrth ofyn beth fydd yn digwydd yn y cyfamser gyda dyletswyddau’r Prif Weithredwr ac a fydd Prif Weithredwr dros dro yn dod yn ei le, dywedodd ei bod yn “ddyddiau cynnar” ac nad yw’r Brifysgol wedi “cyrraedd y cam yma eto.”
Doedd dim syniad chwaith o’r amserlen ar gyfer penodi Prif Weithredwr newydd.